Cyffur pwerus yw alcohol. Gall dy gael i drwbl, niweidio dy iechyd a dy wneud yn agored i niwed gan eraill, yn gorfforol ac yn emosiynol. Mae’n ffaith fod hyn yn fwy tebygol o ddigwydd i ti os yn ifanc. Os wyt ti yn adnabod rhywun sydd wedi dechrau yfed alcohol dan oed, ydyn nhw'n gwneud hynny dan bwysau gan eraill? Cofia:
Y mwy ti’n yfed, mwy yw’r peryg o fod mewn trwbl trwy gwffio, cael rhyw anniogel neu gael dy dargedu gan droseddwyr, yn enwedig pan ti dan oed. Mwy o wybodaeth am alcohol trwy’r cysylltiadau isod.
Gallwch ffonio Childline am unrhyw broblem wrth dyfu, yn cynnwys os ydych yn poeni am alcohol neu defnydd rhywun arall o alcohol. Cyngor call ar y gwefa.
Cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael mwy o wybodaeth ynglýn â chyffuriau ac alcohol. Gwasanaeth dwyieithog.
Mae TheSite.org yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog sy'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.
Er bod cymryd cyffuriau'n anghyfreithlon, tydi siarad amdanyn nhw ddim. Ceir cyngor da gan Talk to Frank am unrhyw gyffur, trwy e-bost neu trwy ffonio'r llinell gymorth. Llawer o wybodaeth ar y wefan gan gynnwys manylion help lleol.
Sianel ar y we sy'n llawn gwybodaeth defnyddiol i bobl rhwng 11-25 oed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf, eich iechyd, addysg a phob math o bynciau eraill pwysg wrth i chi dyfu.
Mae Al-Anon yn cynnig dealltwriaeth a chefnogaeth i deuluoedd neu ffrindiau pobl sydd gyda phroblem alcohol, os maent dal i yfed neu ddim. Mae yna grwpiau a chyfarfodydd ar draws Cymru, a fedrwch gael hyd i fanylion ar y gwefan. Maent hefyd yn rhedeg gwasanaeth wedi ei anelu at bobl yn eu harddegau, Alateen, i'w helpu dygymod gydag aelodau o'r teulu sydd efallai'n yfed gormod.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales