Weithiau daw digwyddiadau i amharu ar berthynas, neu mae cwpwl yn penderfynu nad ydynt yn gallu cydfyw fwyach, ac yn gwahanu. Weithiau, gall hyn arwain at ysgariad os mae’r cwpwl yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Golygai hyn amser anodd i bawb yn y sefyllfa fel arfer, yn enwedig os mae yna blant. Gall gytuno ar yr hawl i weld a chyswllt gyda’r plant fod yn broses boenus, ac mae’n gyffredin i blant deimlo mai eu bai nhw yw popeth. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae yna lawer o gefnogaeth a help ar gael i unrhyw gwpwl sy’n penderfynu mai hyn yw’r unig ffordd ymlaen.
Mae’r adnoddau yma wedi eu hanelu at oedolion, ond ceir gwybodaeth bellach hefyd yn yr adran i bobl ifanc.
Adnodd cynhwysfawr i bobl sy'n ysgaru, yn rhoi cyngor hefyd ar sut i helpu plant drwy'r broses.
Gwybodaeth ymarferol i blant, pobl ifanc neu rieni sy'n mynd drwy berthynas sy'n chwalu.
Gwybodaeth bwysig am y broses ysgaru o wefan llywodraeth San Steffan, yn cynnwys ffurflenni angenrheidiol a'r gwahanol oblygiadau cyfreithiol.
Cyngor ar ystod o bynciau, yn cynnwys ysgaru, budd-daliadau a chyfryngu teuluol.
Gwasanaeth a all helpu chi ddod i gytundeb heb fynd i gwrt, os mae dadlau teuluol ar ôl gwahanu neu ysgaru. Manylion gwasanaethau cyfryngu lleol o'r gwefan, a chyngor trwy'r llinell gymorth.
Cyngor cynhwysfawr ac erthyglau o ddefnydd am yr holl broses o ysgaru a sut i gael help arbenigol.
Mae Relate yn cynnig cwnsela, therapi seicorhywiol a gwasanaethau eraill i gwplau sy'n cael problemau yn eu perthynas. Ewch i'r gwefan am fwy o fanylion o'r math o help maent yn ei gynnig.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales