Gyda dros 100,000 o bobl yn byw gyda phroblemau gweld difrifol yng Nghymru, mae'n bwysig fod eu hanghenion hwy yn cael eu cysidro drwy gymdeithas gyfan. Mae hyn yn golygu eu cynnwys mewn pob gweithgaredd a chynnig mynediad cyfartal i wasanaethau a chyfleoedd mae eraill yn eu mwynhau.
Mae'r mudiadau yma yn adnoddau sy'n cynnig help a chefnogaeth i'r perwyl hwn, ac yn ceisio sicrhau annibyniaeth a gwell safon byw i bobl gyda phroblemau gweld difrifol.
Mae RNIB Cymru yn gweithio gyda phobl sydd wedi colli eu golwg yn ddifrifol, ar draws y wlad.
Cefnogaeth a help i'r dall yn Ne Ddwyrain Cymru.
Elusen sy'n cynnig cefnogaeth a help i'r sawl sy'n cael anhawster gweld yng Ngogledd Cymru a Swydd Gaer.
Adnodd da a help i pobl sy'n methu gweld.
Mudiad sy'n cynrychioli mudaidau eraill i'r dall ar draws Cymru, ac maent yn cynnig newyddion o'r datblygiadau diweddaraf i'r dall ar draws y wlad.
Help, gwybodaeth a chefnogaeth i ddefnyddio cyfrifiaduron a thechnoleg os yn byw gydag anabledd.
Llyfr llafar sy'n cynghori ar lefydd i fynd a phethau i wneud ar draws y Deyrnas Unedig.
Gwybodaeth, sylwadau a chyfleodd i ymgyrchu dros cydraddoldeb i bobl anabl. Mae Anabledd Cymru yn fudiad cenedlaethol sy'n dod a mudiadau eraill ynghyd ac yn ceisio sicrhau hawliau, cydraddoldeb ac annibynniaeth i bobl anabl.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales