Mae’r term anabledd dysgu yn un sy'n ymdrin â gwahanol fathau o ddatblygiad deallusol, ond yn y bôn mae’n golygu fod gallu rhywun i ddysgu ddim mor sydyn â phobl eraill. Nid salwch yw hyn, ac mae pobl gydag anableddau dysgu fel arfer o enedigaeth neu blentyndod cynnar. Gall gael ei gategoreiddio fel cyflwr ysgafn, canolig neu ddifrifol.
Ceir gwahaniaethau mawr yn y math o help sydd angen ar bobl gydag anableddau dysgu, a tra bod rhai angen cymorth i ymolchi neu wisgo, mae eraill yn byw bywyd llawer mwy annibynnol ac angen llai o gefnogaeth.
Gydag anabledd dysgu difrifol, gall ymddygiad fod yn heriol, gyda ffactorau eraill fel problemau golwg neu glyw, awtistiaeth, salwch meddwl neu broblemau iechyd yn chwarae rhan yn y gefnogaeth sydd ei angen.
Mae’r mudiadau sydd wedi eu rhestru yma yn cysidro pobl gydag anabledd dysgu yn aelodau llawn o gymdeithas ac yn ceisio meithrin ymddygiad cymdeithasol bositif i helpu nhw gyrraedd eu llawn botensial.
Cwmni elusennol cymunedol llwyddianus sy'n rhoi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i bobl gydag anableddau dysgu yn eu cymuned. Yn ogystal â chwarae rôl gymunedol bwysig, mae hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at adfywio’r economi lleol.
Help a chefnogaeth i'r sawl gyda anableddau dysgu yn ardal Conwy.
Gwasanaethau cefnogaeth i'r pobl gydag anhawsterau dysgu yn ardal Abertawe.
Gyda dros 26 grwp ar draws Cymru, mae Mencap yn cynnig llawer o gefnogaeth i bobl gyda anabledd dysgu a'u teuluoedd. Help o bob math ar gael, yn cynnwys i helpu pobl fyw bywydau annibynnol.
Mae'r Prosiect yn rhoi cyngor a chefnogaeth ddwyieithog i unigolion dyslecsig yng Nghymru sydd yn cael anhawster gyda'r Gymraeg a'r Saesneg, ac yn edrych am wirfoddolwyr i helpu gyda'r llinell gymorth a gweithgareddau eraill.
Gwasanaethau cefnogaeth i bobl gydag anhawsterau dysgu ar draws De a Gorllewin Cymru.
Un o'r sefydliadau mwyaf yng Nghymru sy'n cynnig gofal a chefnogaeth i fyw'n annnibynnol.
Corff sy'n cysylltu llawer o fudiadau anabledd dysgu ar draws Cymru, gan gynnig gwybodaeth, cefnogaeth a hyfforddiant.
Mae'r mudiad yma'n cynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru, gan ymgyrchu ar ran eu hawliau hefyd. Cysylltwch â nhw am unrhyw agwedd o edrych ar ôl eraill, o ble i gael help ariannol i'ch gwasanaethau lleol.
Mae'r sefydliad yn gweithio gyda pobl gydag anableddau dysgu, eu teuluoedd a'r poblsy'n rhoi cefnogaeth i nhw.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales