Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Erthyglau diweddar

Anafiadau i'r pen

Gall trawiad i'r pen, am ba bynnag reswm, fod yn anaf difrifol iawn. Yn aml, mae angen gofal a chynllun adfer hirdymor, a gall cael effaith ar nid jest yr unigolyn, ond y bobl sydd o'i amgylch neu'n agosaf iddo fo neu hi. Mae'r mudiadau yma'n cynnig rhywfaint o gymorth a chefnogaeth.

Cysylltiadau defnyddiol

    Headway

    Mae Headway yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau i bobl sydd gydag anaf i'r ymennydd, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Maent yn cynnal grwpiau cefnogaeth yng Nghonwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Benfro, Sir Gâr, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd - mwy o fanylion ar y wefan ddefnyddiol a thrwy'r linell gymorth hefyd.

    BIRT

    Mae'r Brain Injury Rehabilitation Trust yn ceisio helpu pobl adennill eu sgiliau ar ôl cael anaf i'r ymennydd. Maent yn cynnig ystod o wasanaethau yn cynnwys asesiadau, gwasnaethau adferiad, gofal hirdymor mewn tai a chefnogaeth yn y gymuned.

    Brainwave

    Elusen i blant a phobl ifanc sydd gyda dros 26 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag anafiadau i'r ymennydd, a chyflyrau sydd wedi eu hetifeddu ac sy'n golygu anabledd neu ddatblygiad araf. Maent hefyd yn cefnogi teuluoedd gyda phlant awtistig.

    Child Brain Injury Trust

    Er nad yw'r ymddiriedolaeth yn gweithio'n Gymru ar y funud, mae'r wefan gyda gwybodaeth a thaflenni defnyddiol i rieni neu ofalwyr plant gydag anaf i'r ymennydd.

    Fforwm y DU i Anaf i'r Ymennydd

    Ffynhonnell dda o wybodaeth i'r sawl sy'n rhan o'r maes anafiadau pen, mae'r fforwm yn ceisio codi ymwybyddiaeth a gwella gwasanaethau i'r sawl sydd gydag anafiadau o'r fath.

    The Stroke Association

    Yna i helpu pobl sydd wedi cael strôc, eu teuluoedd a'u gofalwyr, gyda chysylltiadau lleol ar draws Cymru.

    Patient.co.uk

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.