Clefyd sy'n achosi llid poenus yn y coludd yw Clefyd Crohn. Mae symptomau yn amrywio, ond yn aml mae pobl yn cael poen bol, dolur rhydd ac yn teimlo'n sâl yn gyffredinol. Mae tua 90,000 o bobl yn byw gyda'r cyflwr yma yn y Deyrnas Unedig, a does dim rheswm clir pam ei fod yn datblygu yn y lle cyntaf. Wedi dweud hyn, mae ysmygu neu os mae rhywun arall yn y teulu gyda'r cyflwr yn ffactorau sy'n codi'r posibilrwydd o ddatblygu'r cyflwr.
Ceir ffynonellau help, cefnogaeth a gwybodaeth bellach isod.
Nod yr elusen yma yw i wella bywyd pawb sydd yn byw gyda chlefydau sy'n effeithio'r coluddion, a'r rhai mwyaf cyffredin yw Clefyd Crohn a llid y colon briwiol. Mae'n elusen sy'n dod a phobl o bob oedran sy'n byw gyda chyflwr at ei gilydd, ynghyd â'u teuluoedd a meddygon sy'n gyfrifol am ofalu amdanynt.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales