Mae llawer o elusennau mwyaf blaenllaw Cymru a'r DU i'w gweld ar ein strydoedd mawr, yn cynnig ystod o nwyddau i'w gwerthu a chyfleoedd i wirfoddoli. Ond beth mae rhai o rain yn gynnig i'r bobl maen nhw am ei helpu? Mwy o wybodaeth am rai o'r enwau cyfarwydd yma, a sut fedrwch chi helpu trwy wirfoddoli.
Un o'r prif elusennau sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth i dlodi ar lefel byd-eang, gallwch gael hyd i Oxfam mewn dros 70 o wledydd erbyn hyn. Maent yn ymwneud â llawer o faterion fel ceisio gostwng dyledion gwledydd sy'n datblygu, yn ogystal â rhoi cymorth o bob math, gan gynnwys mewn trychinebau naturiol, datblygu sustemau iechyd, addysg a chryfhau'r economi o fewn y gwledydd. Mae ganddynt bresenoldeb cryf ar y stryd fawr ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i wirfoddolwyr. Mwy o’r hanes a manylion y cyfleoedd yma ar y wefan.
Mae Macmillan Cancer Relief yn brwydro i wella ansawdd bywyd y sawl sy'n byw gyda chanser. Gwybodaeth glir ar y wefan, yn cynnwys arbenigedd Cancer BACKUP, sydd wedi uno a Macmillan yn ddiweddar. Cefnogaeth hefyd trwy'r llinell gymorth, yn ogystal â'r 2000 o nyrsys hyfforddedig sy'n arbenigo mewn canser.
Mae Tenovus yn cynnig gwasanaeth dwyieithog dros y ffôn a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwybodaeth ar sut i osgoi canser, profion, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi.
Elusen sy'n arbenigo mewn cefnogi pobl gydag anghenion lliniarol arbenigol, gofal diwedd bywyd a gofal niwrolegol.
Mae BHF Cymru yn ceisio gwella’r sefyllfa clefyd y galon yng Nghymru, trwy ymgyrchoedd iechyd, lobïo am wasanaethau gwell a datblygu ymchwil.
Asiantaeth gyda dros 100 mlynedd o brofiad o gael hyd i gartrefi newydd i blant.
Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales