Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Syndrom Down

Mae Syndrom Down yn gyflwr genetig sy'n achosi rhif anarferol o gromosomau yn y corff, ac mae'n gyflwr sy'n gyffredin i bob rhan o'r byd. Mae'n fwy tebygol o ddigwydd wrth i bobl benderfynu cael plant yn hyn, ond nid hynny yw'r unig ffactor sy'n ei achosi. Gall y cyflwr gael ei ganfod trwy brofion cyn geni.

Mae'r cyflwr yn golygu problemau iechyd a rhyw raddau o anabledd dysgu. Er hyn, gyda chefnogaeth iawn, mae llawer o bobl gyda syndrom Down yn dilyn bywydau llawn.

Mae'r dolenni isod i rai mudiadau sy'n cynnig cefnogaeth a manylion profion cyn geni.

Cysylltiadau defnyddiol

    Cymdeithas Syndrom Down

    Elusen sy'n cynnig cefnogaeth i bobl gyda Syndrom Down a'u teuluoedd. Mae'n yn gwneud hyn drwy help ymarferol, gwybodaeth a hyfforddiant am y cyflwr.

    Grwp y Galon Down

    Elusen sy'n cynnig cymorth a gwybodaeth yn gysylltiedig â cyflwr y galon pobl gyda syndrom Down.

    Down Syndrome Education Online

    Gwefan llawn ymchwil, adnoddau a gwybodaeth amwasnaethau i deuluoedd sy'n byw gyda Syndrom Down.

    Cyswllt Teulu Cymru

    Mae'r mudiad yma'n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd sydd gyda phlant anabl.

    • Rhif ffôn: 0808 808 3555 (10am-4pm, Llun-Gwener)
    • Ffôn testun: 0808 808 3556
    • Ymweld â'r wefan

    Mencap Cymru

    Gyda dros 26 grwp ar draws Cymru, mae Mencap yn cynnig llawer o gefnogaeth i bobl gyda anabledd dysgu a'u teuluoedd. Help o bob math ar gael, yn cynnwys i helpu pobl fyw bywydau annibynnol.

    • Rhif ffôn: 0808 808 1111 (10am-6pm, Llun i Gwener, 10am-4pm penwythnosau a gwyliau banc)
    • Ymweld â'r wefan

    Sgrinio Cyn Geni Cymru

    Wedi ei ariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn gwella safonau'r gwasanaethau sgrinio cyn geni sy'n cael eu cynnig i ferched. Maent yn cynnig nifer o wahanol brofion sgrinio i chi allu trafod rhwng gyda'ch bydwraig neu doctor.

    ARC

    Elusen genedlaethol yw ARC yn cynnig cyngor a chymorth wrth i bobl benderfynu ar ba brofion i’w cymeryd pan yn feichiog  - eu nod yw rhoi’r wybodaeth gorau i ddarpar rieni am y ffordd ymlaen.