Neidio at y cynnwys

S4C

Anhwylder tymhorol

Mae Anhwylder Affeithiol Tymhorol yn fath o iselder sy'n effeithio pobl yn ystod misoedd y gaeaf, oherwydd bod yna lai o oriau dydd a bod y diffyg golau yn gallu cael effaith ar cydbwysedd biocemeg yr ymennydd. I rhai pobl, mae hyn yn afiechyd difrifol ac yn eu rhwystro rhag gael bywyd normal heb gymorth meddygol. Gall bobl ddioddef hefyd o ffurf llai seriws o'r salwch yma.

Mae triniaeth yn gallu cynnwys therapi golau, sy'n gweithio'n dda, moddion gwrth-iselder neu gwnsela - neu gyfuniad o'r tri. 

Cysylltiadau defnyddiol

    SADA -Seasonal Affective Disorder Association

    I bobl sy'n dioddef o iselder pan mae'r tymhorau'n newid, gellir cael cymorth drwy wefan SADA, sy'n rhoi manylion y driniaeth ddiweddaraf i'r cyflwr a sut i gael help.

    Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

    Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.

    Mind Cymru

    Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.

    Journeys

    Trafod mewn grwp gydag eraill sy'n dioddef yw'r ffordd gorau i ddygymod a phroblemau weithiau. Mae Journeys, oedd gynt yn cael ei alw'r Depression Alliance, gyda 25 grŵp hunan gymorth ar draws Cymru.

    Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.