Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Erthyglau diweddar

Bwlimia

Mae bwlimia, yn ogystal ag anorecsia, yn anhwylder bwyta sy'n dod yn fwy cyffredin yn ein cymdeithas. Rhai o nodweddion bwlimia yw bod y sawl sy'n dioddef yn aml yn gorfwyta, wedyn yn teimlo'n euog am hyn ac yn ceisio cael gwared â'r bwyd drwy chwydu, cymryd moddion sy'n eich gweithio neu wneud gormod o ymarfer corff - weithiau'r tri.

Mae'r wybodaeth isod i'ch helpu os ydych chi neu rywun sy'n agos i chi yn dioddef o'r anhwylder bwyta yma. Cofiwch mai'r doctor yw'r lle gorau i fynd fel arfer ac mae yna wasanaethau arbennig i gael drwy'r Gwasanaeth Iechyd yn rhai rhannau o Gymru. Mae yna lawer o gwnsela arbenigol a grwpiau hunan gymorth i gael hefyd.

Cysylltiadau defnyddiol

    B-eat

    Beat yw'r enw newydd am y Gymdeithas Anhwylderau Bwyta (Eating Disorders Association), un o'r prif gymdeithasau i bobl sydd wedi eu heffeithio gan anhwylderau bwyta yn y DU. Mae grwpiau hunan gymorth a chwnsela arbenigol ar gael yng Nghymru, sef ym Mangor, Abertawe, Caerdydd ac Aberteifi. Gwybodaeth am wasanaethau arbenigol y Gwasanaeth Iechyd ar gael hefyd. Ceir gwasanaeth tecstio drwy 07786 201 820 gyda sgyrsiau rheolaidd ar-lein - ewch i'r gwefan i weld beth allent gynnig i chi.

    • Rhif ffôn: 0845 634 1414 (18+), 0845 634 7650 (under 18) (18+: Llun-Gwener, 10.30am-8.30pm, Sadwrn 1pm-4.30pm. Dan 18: 4.30pm-8.30pm yn yr wythnos, 1pm-4.30pm ar Ddydd Sadwrn)
    • Ymweld â'r wefan

    Canolfan Genedlaethol Anhwylderau Bwyta

    Mae'r Ganolfan Genedlaethol Anhwylderau Bwyta yn gorff annibynnol sydd yna i helpu gyda phroblemau anhwylderau bwyta. Maent yn cynnig cwnsela, hyfforddiant a gwybodaeth, y rhan fwyaf yn Lloegr. Gwefan da gyda chwrs hunan gymorth a llawer o wybodaeth am y mathau gwahanol o anhwylder bwyta.

    ABC

    Mae Anorexia and Bulimia Care yn cynnig cefnogaeh i'r sawl sy'n dioddef o anhwylder bwyta, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Ceir llinell gymorth a help ar-lein.

    First Steps to Freedom

    Llinell gymorth i bobl sy'n dioddef o bryder, panig, ffobiâu, anhwylder cymhellol-obsesiynol, anorecsia a bwlimia yw First Steps to Freedom - mae'r gwasanaeth yna hefyd i'w gofalwyr. Maent yn cynnig gwasanaeth cwnsela, gwrando, cynghori a gwybodaeth.

    • Rhif ffôn: 0845 120 2916 (10am-10am, Llun i Iau, wedyn 10am-12am, Gwener i'r Sul)
    • Ymweld â'r wefan

    Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

    Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.

    C.A.L.L.- Community Advice and Listening Line

    Gwasanaeth dros y ffôn sydd wedi ei leoli yng Nghymru, un sy'n barod i wrando ar bobl gyda phroblemau iselder neu broblemau iechyd meddwl o unrhyw fath. Ffoniwch wasanaeth C.A.L.L. neu ymwelwch â'r gwefan am fwy o wybodaeth. Gwasanaeth tecstio ar gael i bobl ifanc hefyd, drwy decstio'r gair HELP, wedyn disgrifiad byr o'r broblem i 81066 e.e. 'HELP ble mae'r gwasanaeth anhwylder bwyta agosaf i Gonwy'.

    • Rhif ffôn: 0800 132737 (10am-2pm, wedyn 7pm-11pm, Llun i Gwener, wedyn 12pm-12am ar y penwythnos)
    • Ymweld â'r wefan

    YoungMinds

    Mae YoungMinds yn llinell gymorth sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor i unrhyw un gyda phryderon am iechyd meddyliol person ifanc, er enghraifft os maent yn cael eu heffeithio gan fwlio. Darperir gwybodaeth am ystod o faterion iechyd meddwl a manylion gwasanaethau cenedlaethol a lleol.

    • Rhif ffôn: 0808 882 5544 (10am-4pm, Llun-Gwener & 6pm-8pm ar nos Fercher)
    • Ymweld â'r wefan

    Patient.co.uk

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.