Mae bwlio yn amlwg yn achosi poen meddwl i blant sy'n dioddef o'r fath beth, ond mae'n anodd hefyd i rieni neu ofalwyr wybod ble i fynd am gymorth neu gyngor safonol. Yn ffodus, erbyn hyn mae yna lawer o adnoddau ar gael, ac mae’r rhai gorau’n cael eu rhestru yma. Nodwch fod dipyn o’r mudiadau sy'n anelu gwybodaeth at blant yn uniongyrchol hefyd gyda adnoddau i rieni a gofalwyr.
Mae Parentline Plus yn llinell cymorth 24 awr sy'n cael ei staffio gan rieni, yna i bwy bynnag sy'n edrych ar ôl plentyn mewn rôl rhiant, yn cynnwys llys-rieni, neiniau a theidiau, rhieni sengl neu rieni sydd wedi mabwysiadu. Cynigir cefnogaeth a gwybodaeth ar bob math o bynciau, yn cynnwys bwlio, ymddygiad, trais rhywiol, addysg, alcohol a chyffuriau.
Mae YoungMinds yn llinell gymorth sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor i unrhyw un gyda phryderon am iechyd meddyliol person ifanc, er enghraifft os maent yn cael eu heffeithio gan fwlio. Darperir gwybodaeth am ystod o faterion iechyd meddwl a manylion gwasanaethau cenedlaethol a lleol.
Mae EACHaction yn cynnig help i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan fwlio oherwydd eu rhywioldeb. Ffoniwch neu ewch i'r gwefan am fwy o fanylion.
Canolfan cyngor annibynnol i rieni yw'r Advisory Centre for Education (ACE), yn rhoi cyngor ar bob agwedd o addysg 5-16 gan y wladwriaeth yng Nghymru a Lloegr. Gallent roi cyngor ar fwlio, gwaharddiadau ysgol, anghenion arbennig ac apelion ysgol yn gyffredinol. Mae ganddynt bamffled da ar daclo bwlio, sydd ar gael fel taflen pdf.
Mae Bullies Out yn elusen Gymreig sy'n darparu gwybodaeth ddwyieithog safonol am fwlio i blant ac oedolion, yn ogystal â chynnal fforwm cymorth ar-lein.
Mae Bullying UK yn darparu llawer o wybodaeth drylwyr a chyngor ar fwlio, yn cynnwys strategaethau i ysgolion a help i unigolion.
Er bod Childline Cymru yn llinell gymorth wedi ei anelu at blant yn unig, maent hefyd yn rhannol gyfrifol am 'CHIPS' (Childline In Partnership with Schools), sy'n rhedeg gweithdai am fwlio mewn ysgolion. Mae Childline yn rhan o NSPCC Cymru, a fedrwch gael mwy o fanylion nid yn unig am y cynllun hwn ond am ffynonellau eraill o gymorth os ydych yn poeni am fwlio, drwy ffonio neu drwy fynd i'r gwefan.
Mae llinell gymorth yn erbyn bwlio Kidscape yna i rieni/gofalwyr neu oedolion eraill sy'n poeni ac sydd angen cyngor ar sut i ddelio gyda bwlio. Mae'r gwefan, sydd hefyd i blant a phobl ifanc, yn rhoi cyngor ymarferol ar sut i gadw'n sâff.
Adnodd defnyddiol iawn i athrawon yn delio gyda bwlio homoffobig.
Mae FFLAG yn cynnig cefnogaeth i grwpiau rhieni lleol sy'n ceisio dod i ddeall aelodau o'r teulu sy'n lesbiaid, hoywon neu'n ddeurywiol. Maent hefyd yn gweithio ar brosiectau i daclo bwlio yn erbyn hoywon.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales