Diweddarwyd 11/06/2008
Gall fwlio ddigwydd i unrhyw un, unrhyw oed ac mewn sawl ffordd gwahanol. Gall fod yn gorfforol neu’n emosiynol - efallai fod rhywun yn pigo arnat drwy alw enwau cas, drwy daro neu bygwth dy daro, neu drwy gymeryd a malu dy eiddo.
Weithiau, gall ddigwydd wrth i fwli droi eraill yn dy erbyn neu ddweud pethau cas dros y ffôn neu drwy tecst, ar y we neu mewn e-bost. Dim ots pa ffordd mae hyn yn digwydd, y ffaith ydi does gan neb yr hawl dy frifo neu gwneud i ti deimlo’n ddrwg, ac mae ffyrdd allan o’r sefyllfa ar gael.
Mae’r gwefannau a’r llinellau ffôn isod yna i ti helpu ddeall mwy am y sefyllfa ac i helpu ti fynd ati i siarad gyda pobl sy'n fodlon helpu, unai dros y ffôn, drwy tecst neu dros y we.
Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd. Os ydych fethu clywed yn dda iawn gallwch ffonio drwy ffôn testun ar y rhif sy'n cael ei roi yma.
Mae Bullies Out yn elusen Gymreig sy'n darparu gwybodaeth ddwyieithog safonol am fwlio i blant ac oedolion, yn ogystal â chynnal fforwm cymorth ar-lein.
Gwasanaeth da iawn ar lein sy'n gysylltiedig â Childline. Fedrwch gael mwy o wybodaeth am fwlio a phynciau eraill, gadael negeseuon neu gael help uniongyrchol dros y we ar ôl cofrestru.
Cewch wybodaeth fywiog ar sut i guro'r bwlis o wefan BBClic.
Cyngor da os ydych yn cael eich bwlio a phynciau eraill sy'n effeithio pobl ifanc yn Need2Know.
Mae EACHaction yn cynnig help i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan fwlio oherwydd eu rhywioldeb. Ffoniwch neu ewch i'r gwefan am fwy o fanylion.
Sianel ar y we sy'n llawn gwybodaeth defnyddiol i bobl rhwng 11-25 oed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf, eich iechyd, addysg a phob math o bynciau eraill pwysg wrth i chi dyfu.
Os ydych o dan 25 gallwch gael cefnogaeth emosiynol gyfrinachol yn rhad ac am ddim o wasanaeth Get Connected.
Os ydych yn ddyn ifanc, gellir cael help a chyngor os ydych chi'n teimlo'n isel drwy fynd i wefan C.A.L.M. neu drwy gael gair dros y ffôn.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales