Mae bwlio ac aflonyddu yn y gweithle yn gallu achosi anhapusrwydd mawr i lawer o bobl. Gall fod yn beth anodd i brofi, ond fel arfer mae'n digwydd pan mae rhywun mewn pŵer yn bygwth neu frawychu gweithiwr arall, er nad hyn yw'r unig ffurf mae'n ei gymryd. Gall olygu cael eich bychanu o flaen eraill, cael eich trin yn annheg neu gael eich cam-drin yn gorfforol neu ar lafar.
Mae'n digwydd trwy e-bost, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, ac yn aml o flaen eraill. Gallwch gael help drwy bolisïau yn erbyn bwlio cryf, adran adnoddau dynol cryf neu'ch undeb. Mae'r mudiadau isod hefyd yn cynnig arweiniad defnyddiol a chefnogol.
Gyda dros 3,000 o swyddfeydd drwy'r DU, gall Cyngor ar Bopeth helpu gyda materion cyfreithiol, gwaith, ariannol a mwy, a hynny am ddim. Gallwch gael hyd i'ch gwasanaeth lleol trwy'r wefan neu'r llyfr ffôn. Gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar bynciau gwahanol ar y wefan hefyd.
Gwybodaeth defnyddiol o wefan llywodraeth San Steffan ar beth i wneud a pa ganllawiau i ddilyn os yn cael eich bwlio.
Sefydliad sy'n arbenigo mewn datrys anghydfod yn y gweithle, yn cynnwys bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu o unrhyw fath. Canllawiau arlein a llinell gymorth ddefnyddiol iawn.
Prosiect ar y cyd rhwng llywodraeth San Steffan a'r undeb Unite yn edrych ar fwlio yn y gweithle. Canllawiau ymarferol a help ar y gwefan.
Mae llinell gymorth dwyieithog y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn cynnig gwybodaeth ac arweiniaeth ar faterion gwahaniaethu a hawliau dynol.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales