Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Canser y fron

Diweddarwyd 10/06/2008

Os ydych chi yn darganfod lwmp ar eich bron, rhaid cofio gall fod esboniad arall heblaw am ganser, fel cyst er enghraifft.  Mae tua naw allan o bob deg lwmp yn rhai fel hyn h.y. ddim yn ganser - a’r peth cyntaf i’w wneud os yn bryderus yw mynd at eich doctor i wneud yn siwr.

Mae canser y fron hefyd yn rhywbeth sy’n tueddu i effeithio merched hyn, ond ddim bob tro. Os mae’n cael ei ddarganfod yn ddigon buan, mae’r siawns o wella yn llawer uwch.

Cysylltiadau defnyddiol

Bron Brawf Cymru

Mae Bron Brawf Cymru yn cynnig sgrinio drwy famograffi bob tair blynedd i ferched dros 50. Os ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu cewch fanylion am hyn yn awtomatig, ond i gael mwy o wybodaeth am y broses sgrinio, ewch i'r gwefan. Os ydych o dan 50 ac yn pryderu oherwydd hanes teuluol, y peth gorau i wneud yw cael gair gyda'ch meddyg, i weld os oes angen prawf genetig arnoch.

Breast Cancer Care

Mae Breast Cancer Care yna i'r sawl sydd yn byw gyda'r math yma o ganser gyda llinell gymorth genedlaethol am ddim yn cynnig cyngor i bwy bynnag sydd wedi ei heffeithio gan hyn, yn cynnwys y teulu.

  • Rhif ffôn:
    0808 800 6000 (9am-5pm yn yr wythnos, 9am -2pm ar Ddydd Sadwrn)
  • Ymwelwch â'r wefan

Tenovus

Mae Tenovus yn cynnig gwasanaeth dwyieithog dros y ffôn a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwybodaeth ar sut i osgoi canser, profion, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi.

Breast Cancer Campaign

Os gennych ddiddordeb yn yr ymgyrch yn erbyn y math yma o ganser, ac am fwy o wybodaeth am y driniaeth ddiweddaraf, ewch i wefan y Breast Cancer Campaign.

Breakthrough Breast Cancer

I gael mwy o wybodaeth safonol am ganser y fron, ewch i wefan Breakthrough Breast Cancer.

Breastcancer.org

Gwybodaeth safonol am ganser y fron ar y wefan yma.

CancerHelp

Mae CancerHelp yn wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i'r sawl sy'n byw gyda chanser, ac yn rhan o Cancer Research UK.

Galw IECHYD Cymru

Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

Rhwydwaith Ymchwil Canser Cymru

Gwybodaeth am ddarpar dreialon triniaethau canser ac astudiaethau eraill sydd wedi’u cynllunio gan gynghorau ymchwil y llywodraeth, grwpiau ymchwil academaidd ac elusennau canser yng Nghymru.

Patient.co.uk

Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

Macmillan Cancer Relief

Mae Macmillan Cancer Relief yn brwydro i wella ansawdd bywyd y sawl sy'n byw gyda chanser. Gwybodaeth glir ar y wefan, yn cynnwys arbenigedd Cancer BACKUP, sydd wedi uno a Macmillan yn ddiweddar. Cefnogaeth hefyd trwy'r llinell gymorth, yn ogystal â'r 2000 o nyrsys hyfforddedig sy'n arbenigo mewn canser.

 

Cancer Research UK

Cancer Research UK yw un o'r mudiadau ymchwil gwirfoddol mwyaf yn y byd. Ceir manylion am y driniaeth ddiweddaraf, llinellau cymorth a gwasanaethau cynnal ar eu gwefan.