Neidio at y cynnwys

S4C

Canser y pancreas

Chwarren tu cefn i'r stumog yw'r pancreas, un sy'n cynhyrchu hormonau ac ensymau gwahanol, llawer ohonynt i dreulio bwyd. Mae canser y pancreas yn fwy tebygol o effeithio bywydau pobl dros 60, ond nid yw'n ganser cyffredin iawn. Yn anffodus, mae'n gallu bod yn ganser anodd i'w ganfod a'i drin.

Ceir mwy o wybodaeth a chefnogaeth o'r dolenni a mudiadau isod.

Cysylltiadau defnyddiol

    Pancreatic Cancer UK

    Elusen sy'n anelu i gynnig cefnogaeth, ariannu ymchwil a chodi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas. Gwybodaeth yn y Gymraeg ar y wefan.

    Patient.co.uk

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    Macmillan Cancer Relief

    Mae Macmillan Cancer Relief yn brwydro i wella ansawdd bywyd y sawl sy'n byw gyda chanser. Gwybodaeth glir ar y wefan, yn cynnwys arbenigedd Cancer BACKUP, sydd wedi uno a Macmillan yn ddiweddar. Cefnogaeth hefyd trwy'r llinell gymorth, yn ogystal â'r 2000 o nyrsys hyfforddedig sy'n arbenigo mewn canser.

    Cancer Research UK

    Cancer Research UK yw un o'r mudiadau ymchwil gwirfoddol mwyaf yn y byd. Ceir manylion am y driniaeth ddiweddaraf, llinellau cymorth a gwasanaethau cynnal ar eu gwefan.

    Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.