Diweddarwyd 18/11/2008
Mae canser y perfedd yn un o’r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru, ac os yw'r cyflwr yn rhan o'ch bywyd neu fywyd rhywun agos, yna mae yna fanylion cymorth a chefnogaeth ar gael i chi yma. Os mae'n cael ei ddal y fuan, fel llawer canser arall, mae'r siawns o oroesi llawer uwch.
Os ydych chi'n poeni am unrhyw agwedd o'ch iechyd, ond yn enwedig os:
yna byddai'n well mynd i weld eich doctor. Cofiwch mai mwy na thebyg, bydd rheswm arall dros y symptomau hyn, nid canser. Fel llawer o afiechydon eraill, y ffordd orau i'w osgoi yw bwyta'n iach (pump o lysiau neu ffrwythau bob dydd), digon o ymarfer corff a stopio smocio'n syth.
Mae Bowel Cancer UK yn codi ymwybyddiaeth o ganser y perfedd ond hefyd yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl sydd gyda'r cyflwr, eu teuluoedd neu ofalwyr.
Elusen wedi ei anelu at y sawl gyda chanser y perfedd, maent yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o symptomau, hybu diagnosis cynnar a chael dewisiadau triniaeth teg ag agored o'r math yma o ganser.
Cancer Research UK yw un o'r mudiadau ymchwil gwirfoddol mwyaf yn y byd. Ceir manylion am y driniaeth ddiweddaraf, llinellau cymorth a gwasanaethau cynnal ar eu gwefan.
Mae CancerHelp yn wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i'r sawl sy'n byw gyda chanser, ac yn rhan o Cancer Research UK.
Mae Tenovus yn cynnig gwasanaeth dwyieithog dros y ffôn a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwybodaeth ar sut i osgoi canser, profion, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi.
Mae'r Colostomy Association yn elusen sy'n cynrychioli pobol sydd wedi cael colostomi. Maent yn cynnig cefnogaeth, tawelwch meddwl a gwybodaeth ymarferol i unrhyw un sydd ar fin cael, neu sy'n byw yn barod, gyda cholostomi.
Gwybodaeth am ddarpar dreialon triniaethau canser ac astudiaethau eraill sydd wedi’u cynllunio gan gynghorau ymchwil y llywodraeth, grwpiau ymchwil academaidd ac elusennau canser yng Nghymru.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales