Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Canser y thyroid

Diweddarwyd 14/01/2009

Os ydych chi neu rywun agos i chi wedi cael eich effeithio gan y math yma o ganser, mae yna wybodaeth a chymorth i'w gael yma. Mae'r siawns o oroesi'r math yma o ganser yn uchel iawn.

Mae canser y thyroid yn weddol anghyffredin, yn effeithio'r chwarren thyroid ar waelod y gwddf. Fel arfer, mae'n un sy'n datblygu'n araf. Ceir tri gwahanol fath: papilaidd, ffoligaidd a medwlaidd. Y cyntaf o’r rhain sydd fwyaf cyffredin, yn effeithio pobl ifanc, merched yn bennaf. Mae'r ail yn tueddu effeithio pobl hyn a'r trydydd yn brin iawn, fel arfer yn cael ei etifeddu.

Mwy o wybodaeth a chefnogaeth o'r dolenni yma.

Cysylltiadau defnyddiol

Butterfly Thyroid Cancer Trust

Yn wreiddiol o Ogledd Ddwyrain Lloegr, mae'r Butterfly Trust bellach yn rhoi cyngor a chefnogaeth i'r sawl gyda chanser y thyroid unrhyw le ym Mhrydain.  

Grwp Cefnogi Canser y Thyroid Cymru

Grwp cefnogi yng Nghymru, wedi ei leoli yn ysbyty Felindre yng Nghaerdydd, i'r sawl sydd gyda canser y thyroid. Gwybodaeth defnyddiol a dolenni cefnogol ar y gwefan, yn cynnwys manylion cyfarfodydd rheolaidd yn yr ysbyty.

Thyroid Cancer Survivors Association

Cymdeithas Americanaidd gyda gwybodaeth ddefnyddiol iawn am ganser y thyroid ar eu gwefan.

Seydliad y Thyroid Prydeinig

Sefydliad sydd yn cael ei arwain gan gleifion, gyda gwefan cynhwysfawr o ddolenni a gwybodaeth ddefnyddiol ar unrhyw afiechyd sy'n effeithio'r thyroid.

Y Gymdeithas Thyroid Prydeinig

Cymdeithas sy'n cael ei arwain gan arbenigwyr yn y maes a gyda gwefan sy'n rhoi manylion am driniaeth i unrhyw salwch sy'n effeithio'r thyroid, yn cynnwys canser.

CancerHelp

Mae CancerHelp yn wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i'r sawl sy'n byw gyda chanser, ac yn rhan o Cancer Research UK.

Tenovus

Mae Tenovus yn cynnig gwasanaeth dwyieithog dros y ffôn a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwybodaeth ar sut i osgoi canser, profion, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi.

Patient.co.uk

Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

Galw IECHYD Cymru

Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

Rhwydwaith Ymchwil Canser Cymru

Gwybodaeth am ddarpar dreialon triniaethau canser ac astudiaethau eraill sydd wedi’u cynllunio gan gynghorau ymchwil y llywodraeth, grwpiau ymchwil academaidd ac elusennau canser yng Nghymru.