Mae colli plentyn am unrhyw reswm yn un o'r profiadau mwyaf ysgytwol phosib, ac fel arfer mae angen llawer o help a chefnogaeth i ddelio gyda'r broses galaru.
Mae'r mudiadau isod yn cynnig cefnogaeth arbenigol i bwy bynnag sydd yn y sefyllfa yma.
Cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth babi. Mae wyth grŵp cefnogaeth ar gael ar draws Cymru, ac maent yn rhedeg llinell gymorth, gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar y wefan.
Mae'r Llinell Gymorth Colli Plentyn yna i bobl sydd wedi colli plentyn o dan unrhyw amgylchiadau, dim ots pa mor bell yn ôl, ac angen siarad. Ewch i'r gwefan am fwy o fanylion neu ffoniwch y rhif yn rhad ac am ddim.
Mae'r Compassionate Friends yn cynnig llinell gymorth a gwefan gyda fforymau i helpu rhieni sydd wedi colli plentyn. Ceir rhagor o wybodaeth i frodyr neu chwiorydd sydd wedi colli rhywun ar wefan arall gysylltiedig.
Elusen sy'n cefnogi plant sy'n cael eu geni'n rhy fuan neu'n rhy sâl. Maent yn cynnig gwasanaethau i gefnogi'r teulu, ac mae cymorth a gwybodaeth hefyd ar gael dros y ffôn ac ar y wefan.
Un oi'r prif elusennau sy'n cefnogi pobl sydd wedi colli plentyn, neu'n helpu plant trwy gyfnod o alaru.
Cyngor a chymorth os ydych yn ceisio delio gyda cholled.
Mae Cruse Cymru yn cynnig gwasanaethau cynghori, gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Mae deg grŵp ar draws Cymru a chynigir cyngor arbenigol ar brofedigaeth i blant a chyngor dros y ffôn gan wirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi a'u dethol yn ofalus. Ffoniwch neu ewch i'r gwefan am fwy o wybodaeth, yn cynnwys sut i gael hyd i gymorth lleol.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales