Mae problemau gyda cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon yn gallu effeithio unrhyw un. Mae'r dolenni a'r llinellau cymorth yma yn rhoi mwy o wybodaeth am effeithiau cyffuriau, a ble i fynd os ydych yn meddwl fod problem ganddoch chi neu rhywun yr ydych yn ei adnabod.
Cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael mwy o wybodaeth ynglýn â chyffuriau ac alcohol. Gwasanaeth dwyieithog.
Er bod cymryd cyffuriau'n anghyfreithlon, tydi siarad amdanyn nhw ddim. Ceir cyngor da gan Talk to Frank am unrhyw gyffur, trwy e-bost neu trwy ffonio'r llinell gymorth. Llawer o wybodaeth ar y wefan gan gynnwys manylion help lleol.
Asiantaeth yng Ngogledd Cymru sy'n ceisio gwneud newidiadau positif i fywydau pobl sydd wedi eu heffeithio gan gyffuriau ac alcohol.
Gwasanaethau alcohol a chyffuriau yng Nghymoedd De Cymru, yn cynnwys Merthyr Tudful a Chaerffili.
Mae Prism yn brosiect yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sy'n cynnig cymorth a chyngor i'r sawl sydd gyda phroblemau oherwydd defnydd eu hunain neu ddefnydd rhywun arall o alcohol neu gyffuriau. Mae ganddynt wasanaethau ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Mae Inroads yn cynnig cyngor a chymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan gyffuriau, unai'n uniongyrchol neu drwy ddefnydd rhywun arall.
Gwasanaeth cyfrinachol, rhad ac am ddim yn ardal Abertawe sy'n ceisio lleihau'r difrod a achosir i unigolion a theuluoedd gan gyffuriau ac alcohol.
Cymorth a chefnogaeth gyfrinachol gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol yn ardal Pen-y-bont.
Mae WGCADA yn cynnig gwasanaethau i'r sawl sydd gyda phroblemau gydag alcohol neu gyffuriau yn ardal Abertawe, Pen-y-bont a Chastell-nedd Port Talbot. Am fwy o fanylion a lleoliadau'r gwasanaethau, ewch i'r gwefan.
Asiantaeth wirfoddol sy'n cynnig cyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr cyffuriau neu alcohol yn ardal Rhondda Cynon Taf.
Gwasanaeth sy'n rhoi help, cyngor a chefnogaeth i bobl gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol, ac i'w teuluoedd hefyd.
Mae TheSite.org yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog sy'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.
Addaction yw un o'r asiantaethau triniaeth cyffuriau ac alcohol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Maent yn gallu cynnig help a chyngor i'r sawl sydd gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol (neu'r ddau), eu teuluoedd, ffrindiau neu ofalwyr.
I'r sawl sy'n defnyddio cyffuriau, eu teuluoedd, ffrindiau neu bobl gyda diddordeb proffesiynol, gellir cysylltu â llinell gymorth Release. Cyngor a chwnsela ar ystod o bynciau yn ymwneud â chyffuriau, yn cynnwys iechyd, budd cymdeithasol a materion cyfreithiol. Maent hefyd yn gweithio yn y gymuned ac yn cynhyrchu deunydd addysgiadol.
Mae Families Anonymous yn cynnig llinell gymorth a gwasanaethau eraill i deuluoedd a ffrindiau pobl sy'n cymryd cyffuriau. Mae 50 grŵp trwy'r Deyrnas Unedig, yn cynnwys tri yng Nghymru.
Mae Adfam yn help i deuluoedd a ffrindiau pobl sy'n defnyddio cyffuriau. Maent yn cynnig gwybodaeth a manylion am y cymorth sydd ar gael yn lleol. Cymorth hefyd drwy gynnig cwnsela i'r sawl sy'n pryderu am ddefnydd eu hunain o gyffuriau, pryderon teuluol neu unrhyw agwedd arall o gymryd cyffuriau.
Mae'r gwefan yma'n rhoi gwybodaeth am ystod o wasanaethau lleol ar gael i chi, yn cynnwys rhai cwnsela.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales