Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Cyn genedigaeth

Diweddarwyd 03/02/2010

Mae bod yn feichiog yn dod a llawer o wahanol emosiynau ac ambell i her i'ch rhan wrth i'r corff newid gyda'r un bach yn tyfu, yn enwedig os ydych yn fam am y tro cyntaf. Gall ddod a chymhlethdodau neu gall fod yn hollol ddiffwdan, ond mae beichiogrwydd fel arfer yn gyfnod pan mae angen cefnogaeth, enwedig fel mae'r enedigaeth yn agosáu.

Mae'r mudiadau a'r dolenni yma yn cynrychioli rhai o'r ffynonellau gorau o wybodaeth ar gael ar y pwnc ar y funud, yna i helpu ateb eich cwestiynau yn ystod y cyfnod arbennig yma.

Cysylltiadau defnyddiol

Ymddiriedolaeth Genedigaeth Genedlaethol

Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig help a chefnogaeth trwy’r broses o fod yn feichiog, geni a dyddiau cynnar bod yn rhiant, gan gynnwys cyrsiau cyn ac ar ôl yr enedigaeth, cefnogaeth leol a gwybodaeth safonol i helpu bob rhiant.

Babycentre

Gwybodaeth cyffredinol da os ydych yn feichiog. Mae'r wefan yn cynnig disgrifiad o sut mae eich corff yn newid gyda'r babi o wythnos i wythnos.

Netmums

Un o'r gwefannau mwyaf a prysuraf i famau a rhieni, mae'n cynnig help a chyngor ar ystod o bynciau i rieni, yn cynnwys bod yn feichiog. Gwybodaeth lleol ar draws Gymru hefyd.

Mumsnet

Gwybodaeth, cyngor a mwy i rieni a darpar rieni.

Patient.co.uk

Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

Galw IECHYD Cymru

Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.