Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Anhwylder deubegwn

Diweddarwyd 21/10/2008

Mae anhwylder affeithiol deubegwn yn cael ei gysidro'n anhwylder tymer, pan mae tymer yn mynd o un pegwn eithafol i’r llall, fel arfer o fod yn uchel iawn  (mania) i fod yn isel iawn (iselder). Daw'r salwch ar ffurf ‘episodau’, cyfnodau uchel ac isel sydd fod mor eithafol nes amharu ar eich bywyd arferol.

Gellir anhwylder deubegwn effeithio ar ddynion a merched o unrhyw gefndir cymdeithasol neu ethnig, ar unrhyw bryd yn eu bywydau. Term arall amdano yw iselder manig.

Yn aml, gall ddigwydd y tro cyntaf pan mae pwysedd gwaith, astudio, teuluol neu emosiynol ar ei waethaf. Mewn merched, gall ddigwydd ar ôl cael plentyn neu wrth fynd trwy'r 'newid bywyd'. Mae yna amrywiaeth yn nifrifoldeb y symptomau, ac weithiau mae'r diagnosis yn un anodd; yn aml yr iselder, rhywbeth llawer mwy cyffredin yn ein cymdeithas, sy'n cael ei ganfod gyntaf. Gan ddibynnu ar ba mor ddifrifol yw'r cyflwr, mae'r driniaeth gorau fel arfer yn golygu cyfuniad o foddion a therapi. 

Cysylltiadau defnyddiol

MDF The Bipolar Organisation Cymru

Mae help ar gael drwy'r MDF Bipolar Organisation Cymru os ydych yn byw gyda anhwylder deubegwn. Ewch i'r gwefan am fwy o wybodaeth a chefnogaeth, yn cynnwys manylion dros 25 grŵp hunan gymorth ar draws Cymru, a chyrsiau i ddysgu sut i reloi'r cyflwr.

Mind Cymru

Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.

Hafal

Hafal yw un o brif elusennau Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol, a'u gofalwyr. Maent yn cynnig gwasanaethau yn seiliedig ar yr egwyddorion o hunanreolaeth a grymuso, i helpu pobl wella pob agwedd o'u bywydau. Manylion cyswllt ym mhob awdurdod lleol ar y wefan.

Gofal Cymru

Cymorth a chefnogaeth yn ne Cymru i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl, drwy helpu nhw i fyw bywydau llawn ac annibynol.

Pendulum

Gwybodaeth arlein sy'n edrych ar bob agwedd o fyw gydag anhwylder deubegwn.

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.

Young Minds

Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu gyda'ch bywyd emosiynol a'ch iechyd meddwl. Hefyd, help i geisio deall os yn rhiant neu'n ofalwr i berson ifanc.

Journeys

Trafod mewn grwp gydag eraill sy'n dioddef yw'r ffordd gorau i ddygymod a phroblemau weithiau. Mae Journeys, oedd gynt yn cael ei alw'r Depression Alliance, gyda 25 grŵp hunan gymorth ar draws Cymru.

BACP - British Association of Counsellors and Psychotherapists

Os ydych chi'n edrych am therapi penodol i'ch cyflwr, neu angen help mewn perthynas, fedrwch gael gwybodaeth am eich therapydd cymwysedig lleol, yn ogystal â mathau o therapi ar gael, drwy fynd i wefan BACP.

Galw IECHYD Cymru

Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.