Mabwysiadu yw pan mae plentyn yn cael cartref newydd, sefydlog gyda theulu. Rhaid i'r plentyn fod llai na 18 oed ac mewn sefyllfa lle nad yw dychwelyd at ei rieni yn ddewis posibl.
Mae'r broses yn un weddol hir a thrylwyr, er mwyn sicrhau'r cartref gorau i'r plentyn. Gallwch wneud cais os ydych dros 21 ac yn gallu cynnig cartref sefydlog, llawn gofal. Gallwch fod yn briod neu sengl i hyn.
Mwy o fanylion am y broses a ble i gael cefnogaeth o'r dolenni isod.
Un o’r prif gymdeithasau sy’n edrych ar ôl bob agwedd o fabwysiadu a maethu plant, gan sicrhau fod safonau gofal uchel a’r hyfforddiant addas yn eu lle i bawb sy’n rhan o’r broses. Mae ganddynt ddwy swyddfa yng Nghymru, sef yng Nghaerdydd a Rhyl.
Gwasanaeth sy'n rhoi'r wybodaeth diweddaraf am bob agwedd o fabwysiadu plant.
Cefnogaeth i deuluoedd cyn, yn ystod ac ar ôl y broses o fabwysiadu.
Asiantaeth gyda dros 100 mlynedd o brofiad o gael hyd i gartrefi newydd i blant.
Mae Parentline Plus yn llinell cymorth 24 awr sy'n cael ei staffio gan rieni, yna i bwy bynnag sy'n edrych ar ôl plentyn mewn rôl rhiant, yn cynnwys llys-rieni, neiniau a theidiau, rhieni sengl neu rieni sydd wedi mabwysiadu. Cynigir cefnogaeth a gwybodaeth ar bob math o bynciau, yn cynnwys bwlio, ymddygiad, trais rhywiol, addysg, alcohol a chyffuriau.
Sefydliad plant ymbarel cenedlaethol yng Nghymru. Maent yn hyrwyddo buddiannau a gweithredu i wella'r sefyllfa i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Cyngor, dolenni defnyddiol a newyddion i rieni a mudiadau.
Gwybodaeth swyddogol am faethu a mabwysiadu o lywodraeth y Deyrnas Unedig.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales