Os ydych chi'n credu y gallwch roi cartref i blentyn ac angen gwybod mwy am sut mae maethu plant yng Nghymru, cymerwch gip olwg neu cysylltwch â rhai o'r mudiadau isod.
Mae Rhwydwaith Maethu Cymru yn cynnwys y rhan fwyaf o ofalwyr maeth unigol yng Nghymru, yr holl awdurdodau lleol a phob un o'r darparwyr gwasanaethau maethu annibynnol mawrion.
Un o’r prif gymdeithasau sy’n edrych ar ôl bob agwedd o fabwysiadu a maethu plant, gan sicrhau fod safonau gofal uchel a’r hyfforddiant addas yn eu lle i bawb sy’n rhan o’r broses. Mae ganddynt ddwy swyddfa yng Nghymru, sef yng Nghaerdydd a Rhyl.
Sefydliad plant ymbarel cenedlaethol yng Nghymru. Maent yn hyrwyddo buddiannau a gweithredu i wella'r sefyllfa i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Cyngor, dolenni defnyddiol a newyddion i rieni a mudiadau.
Mae Voices from Care Cymru yn fudiad sy’n cael ei redeg gan bobl sydd wedi profi’r sustem gofal yng Nghymru, ac mae’n anelu i helpu pobl ifanc sydd o fewn y sustem yna, fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Asiantaeth gyda dros 100 mlynedd o brofiad o gael hyd i gartrefi newydd i blant.
Mae Parentline Plus yn llinell cymorth 24 awr sy'n cael ei staffio gan rieni, yna i bwy bynnag sy'n edrych ar ôl plentyn mewn rôl rhiant, yn cynnwys llys-rieni, neiniau a theidiau, rhieni sengl neu rieni sydd wedi mabwysiadu. Cynigir cefnogaeth a gwybodaeth ar bob math o bynciau, yn cynnwys bwlio, ymddygiad, trais rhywiol, addysg, alcohol a chyffuriau.
Gwybodaeth swyddogol am faethu a mabwysiadu o lywodraeth y Deyrnas Unedig.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales