Mae rhyw a pherthnasau’n gallu bod yn benbleth pan yn ifanc. Yn aml, ti’n teimlo pwysau i gydymffurfio a bod ‘fel pawb arall’, ond mae’n bwysig i ti feddwl pethau trwodd drosot ti dy hun, gwneud dy benderfyniadau yn seiliedig ar be ti’n ei deimlo a beth sy’n gyfforddus i ti.
Ond mae’r gyfraith yn glir iawn ar beth sy’n iawn neu ddim yn nhermau cael rhyw gydag eraill, ac mae’r rheolau yma i geisio dy amddiffyn rhag pobl hyn neu rhai mewn pŵer a all gymryd mantais.
Mae ‘rhyw’ yn cael ei ddiffinio fel gweithred dreiddgar, eneuol neu o fastyrbio rhwng dau neu fwy. Yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, mae’n anghyfreithlon i ti gael rhyw gyda bachgen neu ferch arall (gwrywgydiol neu heterorywiol) os wyt ti o dan 16.
Os wyt ti dros 16 ac yn cael rhyw gyda rhywun rhwng 13-15, gall olygu hyd at dwy flynedd yn y carchar, neu fywyd yn y carchar os mae o neu hi o dan 13: mae’n cael ei gysidro fel trais rhywiol difrifol iawn. Yn ogystal i hyn, mae’n anghyfreithlon i unrhyw un sydd mewn ‘swydd gofal’, fel athrawon neu ddoctoriaid, i gael rhyw gyda rhywun o dan 18 yn eu gofal.
Am fwy o gyngor synhwyrol am hyn a materion eraill, cer i’r gwefannau isod.
Llinell wybodaeth a gwasanaeth arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0-25.
Help llaw a chyngor defnyddiol ar ryw a pherthnasau, os wyt ti'n ifanc a ddim yn siŵr be di be.
Mae TheSite.org yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog sy'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.
Sianel ar y we sy'n llawn gwybodaeth defnyddiol i bobl rhwng 11-25 oed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf, eich iechyd, addysg a phob math o bynciau eraill pwysg wrth i chi dyfu.
Gwasanaeth da iawn ar lein sy'n gysylltiedig â Childline. Fedrwch gael mwy o wybodaeth am fwlio a phynciau eraill, gadael negeseuon neu gael help uniongyrchol dros y we ar ôl cofrestru.
Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd. Os ydych fethu clywed yn dda iawn gallwch ffonio drwy ffôn testun ar y rhif sy'n cael ei roi yma.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales