Neidio at y cynnwys

S4C

Tadolaeth

Mae bod yn dad am y tro cyntaf yn amser o newid ac addasu bywyd, ac i'r rhan fwyaf, yn deimlad hapus iawn. Mae pwysigrwydd gallu cymryd rôl llawn wrth i blentyn dyfu yn rhywbeth sy'n uchelgais i'r rhan fwyaf o dadau.

Yn aml mae mwy o rwystrau i hyn yn y Deyrnas Unedig oherwydd ein horiau gwaith hir a phwysau cymdeithasol eraill, yn anffodus. Mae'r nifer o dadau sy'n absennol eithaf uchel yma, fel arfer oherwydd iddynt wahanu gyda'r fam yn gyfan gwbl neu oherwydd problemau yn y berthynas.

Os ydych yn dad, mae'r dolenni yma yn rhoi cyngor a chefnogaeth am fagu plant, beth bynnag yw eich sefyllfa.

Cysylltiadau defnyddiol

    Dad

    Help, cyngor a sylwadau i dadau ym mhobman.

    Care for the Family

    Elusen sy'n ceisio cefnogi bywyd teuluol trwy'r holl broblemau sy'n gallu gwynebu tadau, mamau a phlant. Canllawiau defnyddiol i tadau, rhieni sengl, y sawl sy'n galaru neu wedi colli partner.

    Sefydliad Tadolaeth

    Cyngor a chefnogaeth ar wahanol agweddau o fod yn dad, beth bynnag yw eich sefyllfa yn nhermau edrych ar ôl plentyn.

    Families need Fathers

    Elusen sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i rieni, yn briod neu di-briod, merched neu dynion. Eu prif amcan yw cefnogi perthynas y plentyn gyda'r ddau riant yn ystod neu ar ôl i berthynas chwalu.

    Plant yng Nghymru

    Sefydliad plant ymbarel cenedlaethol yng Nghymru. Maent yn hyrwyddo buddiannau a gweithredu i wella'r sefyllfa i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Cyngor, dolenni defnyddiol a newyddion i rieni a mudiadau.

    Llinell Gymorth Cyfryngu i Deuluoedd

    Gwasanaeth a all helpu chi ddod i gytundeb heb fynd i gwrt, os mae dadlau teuluol ar ôl gwahanu neu ysgaru. Manylion gwasanaethau cyfryngu lleol o'r gwefan, a chyngor trwy'r llinell gymorth.