Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Therapi celf

Diweddarwyd 17/06/2009

Mae therapi celf yn ffordd o ddefnyddio celf i gyfathrebu, ac mae'n ddull hynod o effeithiol i drin salwch fel iselder, gor-bryder, galar, sioc neu drawma. Gall cael ei ddefnyddio i helpu pobl sy'n byw gyda chyflwr fel canser hefyd.

Fel arfer, bydd ymarferydd therapi celf wedi dilyn cwrs fel artist ond hefyd wedi gwneud cwrs uwch mewn seicotherapi. Mae'r manylion yma am le i gael gafael ar ymarferwyr cydnabyddedig yn y maes.

Cysylltiadau defnyddiol

Cymdeithas Therapyddion Celf Brydeinig

Mae'r gymdeithas yna i esbonio, hybu a rhoi mynediad i therapi celf. Gallent roi manylion am ymarferwyr cydnabyddedig, cyrsiau a hyfforddiant. Mwy o wybodaeth ddefnyddiol am y math yma o therapi ar y gwefan.

The Creative Response

Cymdeithas o therapyddion celf sy'n canolbwyntio ar helpu'r sawl sy'n wynebu colled, canser neu gyflwr peryg hirdymor fel AIDS.

Y Filltir Sgwar

Prosiect celf a storaeon o Ty Geraint, Aberystwyth, canolfan adnoddau gofal lliniarol.