Mae camdrin yn gallu cymeryd sawl ffurf, ond pan mae'n troi'n rhywbeth corfforol gan rhywun agos, gall fod yn sefyllfa beryg iawn. Gall ddigwydd i ddynion neu merched, er mae'n tueddu fod yn fwy cyffredin i ferched ddioddef oherwydd hyn. Mae lloches a help i gael gan rhai o'r cysylltiadau isod.
Mae'r llinell yn cynnig gwybodaeth a chyngor dwyieithog, 24 awr y dydd. Gall helpu drwy gefnogi pobl sydd â phrofiad o gamdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol, yn ogystal ag arallgyfeirio eraill i wasanaethau cynghori, cefnogaeth frys, mannau diogel a gwybodaeth am eu hawliau a’u hopsiynau.
Cefnogaeth a help ymarferol ar draws Gymru i ferched a phlant sy'n dioddef trais yn y cartref. Dros drideg o grwpiau lleol Cymorth i Ferched ar draws y wlad. Defnyddiwch rif y Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref.
Cyngor a chymorth i ferched men perthynas difrïol.
Cyngor a chymorth i ddynion mewn perthynas difrïol.
Llinell gymorth i lesbiaid, hoywon a phobl trawsrywiol sy'n dioddef o drais yn y cartref.
Mae'r elusen yma yn helpu pobl sydd wedi dioddef oherwydd troseddu eraill, ac mae ganddynt dimau lleol i'ch helpu os mae hynny'n wir i chi.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales