Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Erthyglau diweddar

Ysmygu

Mae ysmygu dal i fod yn un o'r pethau mwyaf niweidiol fedrwch chi wneud i'ch iechyd, ac yng Nghymru mae'n gysylltiedig â thua 6,000 o farwolaethau'r flwyddyn.

Gall stopio smocio fod yn anodd iawn i rai, ond gyda mateision clir i'ch iechyd a'ch poced, mae'n amlwg yn uchelgais hyd yn oed i bobl sydd wedi bod yn ceisio stopio ers blynyddoedd. Bellach, ceir sawl gwahanol ffynhonell o gymorth i'ch helpu, yn cynnwys eich doctor. Mwy o fanylion o beth sydd ar gael yn y dolenni yma. 

Cysylltiadau defnyddiol

    Dim Smygu Cymru

    Gwefan a chefnogaeth ymarferol dros y ffôn ar sut i roi'r gorau i smygu.

    Llinell Gymorth Ysmygu'r NHS

    Cyngor dros y ffôn ac ar y gwefan am y ffyrdd gorau i roi'r gorau i smygu.

    ASH Cymru

    Un o'r prif fudiadau sector wirfoddol sy'n cefnogi prosiectau ac yn lobïo i leihau'r defnydd o dybaco yng Nghymru. 

    Gad hi

    Gwefan i bobl ifanc yng Nghymru sydd eisiau mwy o wybodaeth ar ysmygu a sut i roi'r gorau iddi.

    Quit

    Elusen annibynol sy'n helpu pobl roi'r gorau i ysmygu. Gwybodaeth a chyngor i weithwyr proffesiynol yn ogystal ag unigolion.