Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Cyngor Ar Bopeth

Branwen Thomas yn rhoi cyngor Yn y swyddfa Mwy o gyngor

Gyda phell dros fil a hanner o wirfoddolwyr a staff, deliodd Cyngor ar Bopeth yng Nghymru gyda dros 400,000 o achosion blwyddyn ddiwethaf, twf o 16% o'r flwyddyn gynt. Dyledion, budd-daliadau a chredydau treth yw rhai o'r prif faterion maent yn delio a nhw, pethau sy'n effeithio lles ac iechyd bob cymuned trwy'r wlad. Gallwch cael blas am y math o waith maent yn ei wneud trwy wylio'r sianel You Tube yma.

Mae Branwen Thomas yn nain brysur, ar ôl gyrfa sydd wedi cynnwys dysgu a chyfnod fel cynghorydd i Relate. Penderfynodd troi ei llaw at wirfoddoli i Gyngor ar Bopeth ar ôl iddi golli ei gwr yn sydyn. 

Aeth hi i un o’r sesiynau gwybodaeth sy’n cael  eu trefnu yn ei biwro lleol yn Abertawe, a rhoi cais i mewn  yn y fan a’r lle i gael hyfforddiant. ‘Roedd  yr hyfforddiant a gefais yn ddiddorol ac yn broffesiynol iawn, ac erbyn hyn rwyf wedi bod yn gwirfoddoli am dair blynedd a hanner ac wedi cael cefnogaeth lawn ar hyd y ffordd. Ond er fy mod yn berson eithaf hyderus, ni fyddaf fyth yn poeni am ofyn am help’, meddai Branwen.

Cynigir amrywiaeth o gyfleoedd i ennill profiad mewn gwahanol feysydd gan Gyngor ar Bopeth. Gellir ymrwymo i gyn lleied â thair awr yr wythnos, ond mae Branwen yn gwirfoddoli am chwe awr yr wythnos hefo’i biwro lleol hi, ac yn rhannu’i hamser rhwng gweld pobl wyneb yn wyneb a chymryd galwadau ffôn ar y Llinell Gyngor.

Mae'r llinell yn un  ddwyieithog sy’n darparu gwybodaeth i’r rhai sy’n ffonio, a hefyd yn argymell gwasanaethau a mudiadau lleol priodol eraill, yn ôl y galw. Pan ofynnwyd i Branwen a fyddai yn argymell gwirfoddoli efo Cyngor ar Bopeth dywedodd, ‘Yr argol fawr buaswn. Mae gwirfoddoli wedi rhoi ail wynt i mi. Rwyf yn cael cymaint o bleser gwybod mod i wedi gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobol eraill drwy roi help llaw gyda’u problemau.Buaswn i’n herio unrhyw un i roi cynnig ar wneud rhywbeth sydd ychydig yn wahanol fel hyn!’.

Mae gwir angen mwy o wirfoddolwyr sy'n gallu siarad Cymraeg yn enwedig. Os hoffech mwy o wybodaeth am  wirfoddoli gyda Cyngor ar Bopeth Cymru yn lleol, dilynwch y linc yma,