Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Wedi i lywodraeth gyntaf Margaret Thatcher dorri addewid i sefydlu sianel deledu Gymraeg yn 1979 mae Cymry blin yn mynd ati i ymgyrchu. Mae'r ffilm hon yn olrhain ymdrechion Cymdeithas yr Iaith a Phlaid Cymru i wireddu sianel deledu a safiad Gwynfor Evans i ymprydio hyd at farwolaeth dros yr achos. Ffilm unigryw am o benodau mwyaf lliwgar hanes cyfoes y genedl.
Yn arwr o faes y Strade i Barc yr Arfau a meysydd rygbi cenedlaethol a rhyngwladol tu hwnt i Gymru, yn sylwebydd, yn ddarlledwr, yn actor ac yn genedlaetholwr i'r carn, mae Ray o'r Mynydd, i roi iddo'i enw barddol, yn llawn haeddu ei le ymhlith mawrion y genedl. Drwy berfformiad gwefreiddiol Gareth Bale o sgript wych Owen Thomas, wedi ei throsi i'r Gymraeg gan Y Prifardd T James Jones, cawn ddathliad o fywyd eicon a hynny ar achlysur ei ben-blwydd yn 70 oed.
Ym 1972, aeth awdur 'Un Nos Ola Leuad', Caradog Prichard, i'r ysbyty am lawdriniaeth ar gancr yn ei wddf. Yn fuan wedyn, dechreuodd ysgrifennu ei hunangofiant, Afal Drwg Adda. Mewn drama ddogfen o'r un enw heno ar S4C, cawn ddarlun gonest o fywyd un o lenorion pwysicaf Cymru. Fe adroddir y stori o enau Caradog wrth iddo orwedd ar ei wely yn yr ysbyty cyn mynd o dan y gyllell i gael tynnu'r cancr o'i wddf. Y diweddar Stewart Jones sy'n portreadu Caradog ym mlodau ei ddyddiau a Llion Williams sy'n
Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl