S4C

Close
Flash is required to view this video

Drama

Gwaith/Cartref

A fydd hi'n ddiweddglo hapus i athrawon a disgyblion Ysgol Gyfun Bro Taf?

Mae'r ddrama yn Ysgol Gyfun Bro Taf yn cyrraedd pen llanw wrth i ail gyfres Gwaith Cartref ddod i ben nos Sul, 20 Mai. Ond y newyddion da i wylwyr selog y gyfres ddrama boblogaidd yw bod trydedd gyfres ar y gweill.

Mae'r athrawes chwaraeon, Beca Matthews, wedi cael ei siâr hi o ddrama yn ystod y gyfres. Hannah Daniel, yr actores 26 oed o Gaerdydd, sy'n chwarae Beca ac mae hi'n croesi bysedd am ddiweddglo hapus ar gyfer ei chymeriad.

Mae lwc Beca wedi newid ym mhenodau diweddar y gyfres Gwaith Cartref ers iddi gwrdd â'r dyn ifanc hoffus a dawnus Trystan (Tomos Eames). Ymddengys bod pob dim yn hapus rhwng y ddau yn y berthynas - hyd nes i Trystan gyfaddef fod ganddo'r clefyd HIV.

Erbyn hyn mae Beca'n sylweddoli faint mae Trystan yn golygu iddi ac mae'n penderfynu ymladd i gynnal y berthynas - gyda help mam Trystan, y dirprwy brifathrawes Siân Bowen Harries (Janet Aethwy).

"Mae Beca wedi cael amser caled iawn yn ystod y gyfres ac mae'n hen bryd iddi gael bach o hapusrwydd!" meddai Hannah. "Roedd newyddion Trystan yn sioc iddi, ond ar ôl cael amser i feddwl mae Beca'n sylweddoli faint mae e'n ei olygu iddi. Mae'r berthynas rhyngddyn nhw yn wahanol i unrhyw berthynas arall mae Beca wedi'i chael yn y gorffennol. Yn ogystal â bod yn gefn iddi trwy bob dim, mae Trystan yn ei gwneud hi'n hapus. Fe fyddwn ni'n ffilmio'r drydedd gyfres yn yr haf ac rwy'n gobeithio bydd Beca a Trystan yn dal i fod yn hapus gyda'i gilydd - ond pwy a ŵyr beth sydd o'u blaenau?"

Mae gwylwyr y gyfres wedi gweld newid mawr yng nghymeriad Beca ers y gyfres gyntaf. Pryd hynny roedd hi'n dipyn o wild child - yn mwynhau cymdeithasu, yfed a chlybiau nos, hyd yn oed yng nghanol yr wythnos!

"Roedd Beca'n byw bywyd hedonistaidd, sy'n ddealladwy - roedd hi'n 23, newydd raddio ac yn dal i fod mewn meddylfryd myfyriwr. Roedd ei mwynhad o fywyd yn beth grêt, ond mi oedd adegau lle nad oedd hi'n rhagweld effaith ei ymddygiad ar bobol eraill. Roedd cael ei threisio gan Steffan yn ergyd mawr i'w chymeriad. Ond mae Beca'n ferch gref, sydd wedi gwneud y gorau o brofiad erchyll a ffeindio hapusrwydd - yn ei swydd a'r tu hwnt i'r gwaith."

Ond nid Beca yw'r unig un sy'n wynebu problemau wrth i'r gyfres ddod i derfyn.

Gyda Grug (Rhian Blythe) ar fin dianc o'i phroblemau i Falawi, mae Dan (Huw Rhys) yn gweld cyfle iddynt fod yn hapus gyda'i gilydd ymhell o Fro Taf. Ond cyn iddynt adael, mae Grug yn darganfod rhywbeth mae'n rhaid iddi ei rannu gyda Dan - ac mae'n rhoi dyfodol y berthynas yn y fantol.

Tra bod Gwen (Rhian Morgan) yn ymladd i achub ei swydd yn yr ysgol, mae Wyn (Richard Elis) a Nerys (Catrin Fychan) yn brwydro er mwyn sicrhau bod y sioe gerdd 'Blod' yn cael mynd yn ei blaen. Ond fe fydd yn dasg anodd newid meddwl Mr Elis (Rhodri Evan).