S4C

Close
Flash is required to view this video

Drama

Gwaith/Cartref

Byddwch yn barod ar gyfer sioc

Mae'r actores Lauren Phillips yn credu y bydd gwylwyr yn synnu gydag ymateb cymeriad Sara Harries pan fydd ambell wirionedd yn dod i'r wyneb yn y gyfres ddrama bob nos Sul.

"Fe wnaeth e fy synnu i pan ddarllenais i'r sgriptiau," meddai'r actores 31 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, "Ond wedyn mae'r awdur Roger Williams a'r tîm cynhyrchu yn Fiction Factory yn cynnig tro annisgwyl yn y cynffon yn aml. Mae fel petawn nhw'n penderfynu bod Lauren yn dechrau edrych yn rhy gyfforddus yn chwarae Sara a bod angen tro arall yn y stori! Dyna pam wy'n joio'r her gymaint."

Mae Lauren wedi bod yn chwarae Sara ers pedair blynedd yn y cyfresi drama Caerdydd a Gwaith/Cartref. Yn y cyfnod hwn, mae'r athrawes gelf ddwys a chydwybodol yn Ysgol Bro Taf, wedi bod ar daith rollercoaster emosiynol.

"Mae hi wedi cael bywyd carwriaethol cymhleth. Wedi bod yn briod ac ysgaru, cael perthynas gyda dyn deurywiol, a cholli ei ffrind gorau, yr athro Cymraeg, Emyr. Roedd hi nawr yn meddwl eu bod wedi cael hyd i'r partner perffaith yn Dan James a fyddai'n gallu cynnig perthynas sefydlog a chariadus - ond mae hi ar fin cael sioc ac fe fydd ei hymateb yn agoriad llygaid i bawb."

Un tro yn y cynffon yw bod Lauren yn caru gyda Huw Rhys, yr actor o gwm Rhondda sy'n chwarae rhan Dan. Ydy hynny'n anodd iddyn nhw, o ystyried bod Dan yn cael affer angerddol gyda dyweddi ei ffrind gorau, Grug Matthews (Rhian Blythe)?

"Nag yw, achos dy'n ni ddim yn mynd a'n gwaith gartre gyda ni. Wy'n credu bod fi a Huw yn gallu cadw'n gwaith proffesiynol a hamdden ar wahân. Ni'n fwy tebygol o drafod pa liw inni am baentio'r gegin newydd na thrafod Sara a Dan!"