Close
Flash is required to view this video

Drama

Teulu - Y gyfres olaf. Mae'r rhwyd yn cau a'r rhod yn troi.

Dau gymeriad newydd yn cael eu dal yng ngwe'r Teulu

Cariad, cellwair a choethan - mae Teulu yn ôl ar S4C gyda'i holl gymhlethdodau. A dyma fydd y tro olaf i ni ddilyn hanes y teulu o Aberaeron, gan mai hon, y bumed gyfres, fydd yr un olaf erioed.

Wrth i ni ail ymuno â'r stori ar nos Sul, 6 Ionawr, mae'r tensiwn yn amlwg rhwng Margaret a Dr John yn dilyn datgelu ei affêr hi gyda'r gŵr busnes Dafydd Wyn. Mae'r twyll wedi rhwygo'r berthynas, ac er gwaethaf ymbil Margaret am faddeuant, bydd cryn amser nes cawn wybod os oes cymodi i fod rhwng y ddau.

Yn y cyfamser mae bywyd a busnes yn mynd yn ei flaen ym Meddygfa Glandon, Y Cei a Pot Jam - hynny yw, nes daw dau wyneb newydd i adael eu marc.

Gwawr Morris

Mae Gwawr Morris yn fenyw fusnes uchelgeisiol. Mae hi wedi dod i'r dre' gydag addewid Llŷr mai hi yw rheolwr newydd Y Cei - newyddion drwg i Huw sydd wrth y llyw ar hyn o bryd. Yn y rôl mae'r actores gyfarwydd Nia Roberts, seren y ffilm Patagonia a hefyd ffilm Nadolig S4C, Pianissimo.

Alun Thomas

Yn newydd hefyd i'r cast mae Aled Pedrick, yr actor o Waun-Cae-Gurwen, Sir Gâr. Mae Aled yn chwarae rôl Dr Alun Thomas, ac o fewn oriau o gyrraedd mae'r doctor ifanc yn llwyddo i gorddi'r dyfroedd.


"Mae Dr Alun yn waed newydd yn y feddygfa. Mae'n gymeriad brwdfrydig, uchelgeisiol sydd â golwg ffres a modern ar y busnes o fod yn ddoctor," meddai Aled am y doctor newydd, sy'n gwneud dim i leihau'r tensiwn sy'n bodoli eisoes rhwng staff y feddygfa.

"Mae'n dod yno yn y bennod gyntaf fel archwilydd ar ran y Bwrdd Iechyd. Ond mae Meddygfa Glandon yn creu argraff arno ac yn sbarcio'r awydd i fynd 'nôl at ddelio â chleifion wyneb yn wyneb. Mae awgrym y bydd yr ymweliad yn troi'n rhywbeth hir dymor, a rhywbeth arall sy'n ei ddenu i aros yw Anest. Mae sbarc rhyngddo ef â'r nyrs o'r cyfarfod cynta'," meddai Aled, sydd yn cydweithio unwaith eto gyda Ceri Lloyd, ei gyd actor yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Deffro'r Gwanwyn. Mae Ceri wedi ei chastio yn rôl y nyrs Anest Rees.

"Er bod Alun yn uchelgeisiol, mae ei galon yn y lle iawn a gofynion y cleifion sy'n dod yn gyntaf. Ond wrth i'r gyfres ddatblygu mae awgrym bod yr hyder a'r uchelgais hwnnw yn gwneud mwy o niwed na da," meddai Aled.

Mae Teulu yn gyfres sy'n we o fywydau, gyda phenderfyniadau ffôl a dewisiadau sydd ag iddyn nhw ganlyniadau pellgyrhaeddol, a'r cyfan o dan chwyddwydr cymuned fach mewn tref lan môr.

"A dim ond tynhau mae'r we yn y gyfres ola'," meddai Aled, "Wrth i'r stori symud yn ei blaen mae teimlad bod popeth yn tynhau ar bawb a phenderfyniadau ffôl y gorffennol yn dod 'nôl i'w cosbi nhw."