Neidio at y cynnwys

S4C

Byd Pawb

Byd Pawb

Nôl i Fethlehem

Mae rhaglen ddogfen rymus yn y gyfres Byd Pawb yn dilyn teulu o Gymru yn dychwelyd i Fethlehem, Palesteina yn y Dwyrain Canol.

Dilynwn Susan, 48, a Tony Diek, 49, a'u plant Adam, 27 a Natalie, 24 wrth iddynt deithio o Borthmadog, Gwynedd i Fethlehem i gyfarfod eu perthnasau am y tro cyntaf ers iddyn nhw ffoi o'r Lan Orllewinol Balesteinaidd 15 mlynedd yn ôl.

Mae'r rhaglen yn rhoi persbectif unigryw Cymreig un teulu ar stori ryngwladol, amserol ac yn ein hatgoffa ni adeg y Nadolig fel hyn o'r gwrthdaro erchyll sy'n parhau i rwygo teuluoedd ym Methlehem.

Cymraes o Borthmadog a aeth i fyw ym Mhalestina 30 mlynedd yn ôl ydy Susan Diek ac yno wnaeth hi gwrdd a phriodi Tony Diek. Cristion Palesteinaidd yw Tony ond mae ganddo yntau, fel Susan a'r plant, basport Prydeinig ac mae'n ddinesydd Prydeinig sy'n byw ar aelwyd lle clywir Cymraeg, Arabeg a Saesneg.

Terfysgaeth ym Methlehem

Roedd y Dieks yn gwybod bod y sefyllfa wedi gwaethygu ym Methlehem ers iddyn nhw ffoi ym 1996, gyda'r wal o haearn a choncrit yn cael ei chodi gan Israel o amgylch y Lan Orllewinol. Ond ni wnaeth hynny eu paratoi nhw na'r criw ffilmio am yr hyn yr oeddent yn eu hwynebu. Er bod achosion o derfysgaeth Palesteinaidd yn erbyn Israel wedi gostwng 90% ers adeiladu'r wal, cawson nhw eu syfrdanu gan effaith y wal ar fywyd bob dydd ym Mhalesteina.

"Fe gawson ni'n trin yn ofnadwy - roedd gynnon ni gyd Basbort Prydeinig ond doedd hynny'n golygu dim i'r Israelis. Gan fod Tony wedi ei eni yno - Palestinian oedd o yn eu golwg nhw," meddai Susan.

Mae gan Tony ddau frawd yn byw ym Methlehem, a chwaer sy'n byw y tu hwnt i'r wal yn Jerwsalem, Israel. Ond chafodd Tony ddim yr hawl i deithio i gartref ei chwaer am nad oedd ganddo ID Palesteinaidd. Roedd rhaid i Susan a'r plant wneud y daith anodd drwy'r checkpoints hebddo. Mae Jerwsalem, dinas sy'n bwysig i Iddewon, Palesteiniaid a Christnogion, yn ganolbwynt y gwrthdaro rhwng y Palestiniaid a'r Israeliaid.

"Roeddan ni hefyd wedi gobeithio mynd hefo'n gilydd i Eglwys y Geni lle briodon ni 30 mlynedd yn ôl. Oherwydd yr holl strach methodd Tony ddod gyda ni, ac unwaith eto bymtheng mlynedd yn ddiweddarach roedd pethau wedi digwydd i'n gwahanu ni fel teulu," meddai Susan sy'n gweithio fel rheolwraig siop ym Mhorthmadog.

Roedd yn daith emosiynol i'r pedwar ohonynt weld eu teulu a'u ffrindiau unwaith eto - a sylweddoli pa mor galed yw bywyd i bobl sy'n byw yng nghysgod wal fydd yn amgylchynu'r Lan Orllewinol i gyd erbyn i Israel ei chwblhau.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales