Neidio at y cynnwys

S4C

Dwy Wraig Lloyd George

Dwy Wraig Lloyd George

Ffion Hague sy'n cyflwyno rhaglen ddogfen sy'n olrhain perthynas David Lloyd George, un o wleidyddion mwyaf Cymru a Phrydain, gyda'i ddwy wraig.

Mae Ffion ei hun yn wraig i wleidydd amlwg, sef William Hague, llefarydd materion tramor y Blaid Geidwadol. Yn Dwy Wraig Lloyd George mae hi'n adrodd hanes y driongl serch rhwng Lloyd George, ei wraig gyntaf Margaret Owen, a'i feistres, Frances Stevenson, ddaeth yn ail wraig iddo.

Ymhlith uchafbwyntiau'r rhaglen mae'r cyfweliad teledu cyntaf erioed gyda merch Frances Stevenson, Jennifer Longford. Hefyd mae taith o amgylch 10 Downing Street yng nghwmni Sarah Brown, gwraig y Prif Weinidog presennol.

Carwriaeth ddramatig

Mae'r stori'n dechrau yn 1885 ar drip capel i Ynys Enlli, pan gyfarfu'r cyfreithiwr ifanc, uchelgeisiol â Margaret Owen, oedd yn unig ferch un o deuluoedd fferm cyfoethocaf Eifionydd, Mynydd Ednyfed.

Mae hanes eu carwriaeth yn un dramatig. Nid oedd y teuluoedd yn cymeradwyo'r berthynas, yn benodol am resymau crefyddol gan eu bod yn perthyn i enwadau gwahanol, ond efallai hefyd am fod gan Lloyd George eisoes enw fel merchetwr.

Cawn olrhain hanes Lloyd George a Margaret, yn gyntaf yng Nghricieth lle ganed pedwar o blant ac yna yn Llundain. Yn negawdau cyntaf yr 20fed ganrif bu Margaret yn gefn i Lloyd George wrth iddo ddringo rhengoedd y Blaid Ryddfrydol. Daeth e'n Ganghellor y Trysorlys ac yn 1916, yng nghanol y Rhyfel Byd Cyntaf, yn Brif Weinidog.

Carreg filltir

Ond ym Mehefin 1911 y gwelwyd un o gerrig milltir pwysica' eu perthynas pan gyfarfu Lloyd George â'r fenyw ifanc Fohemaidd, Frances Stevenson, ffrind ysgol i'w ddiweddar ferch, Mair Eluned, a fu farw mor anamserol o ifanc yn 17 oed.

Roedd yn gyfarfyddiad a arweiniodd at berthynas 34 mlynedd, fel meistres Lloyd George, ei ysgrifennydd personol ac am ddwy flynedd olaf ei fywyd fel ei wraig ac Iarlles Lloyd George.

Mae'r ffilm yn mynd i'r afael â'r berthynas rhwng y tri dros y cyfnod hwn, gan gynnwys saith mlynedd Lloyd George fel Prif Weinidog. Yn 10 Downing Street, Margaret oedd meistres yr aelwyd ar loriau top y tŷ enwog, gyda Frances yn gweithio ar y llawr gwaelod, nesaf i ystafelloedd y Cabinet.

Fe ddatblygodd bywyd dwbl Lloyd George o ganol yr 1920au pan rannai ei amser rhwng ei gartref gyda Frances yn Churt a'r aelwyd deuluol yn Llanystumdwy. Clywn yr hanes hwnnw yn rhannol trwy lygaid merch anghyfreithiol Frances, Jennifer.

Ond mae Ffion hefyd yn dangos sut y tyfodd y ddwy wraig, nid yn unig yn gefn i Lloyd George yn emosiynol a phroffesiynol, ond yn ffigurau arloesol i fenywod yn yr 20fed ganrif.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales