Neidio at y cynnwys

S4C

Pen Llŷn Harri Parri

Pen Llŷn Harri Parri

Bydd dwy gyfres newydd yn dechrau'n fuan ar S4C i ddathlu straeon ffraeth yr awdur Harri Parri. Mae Harri Parri yn gyn weinidog sydd wedi bod yn diddanu darllenwyr Cymru ers degawdau gyda'i straeon doniol sy'n dilyn hynt a helynt y gweinidog naïf Eilir Thomas, a'i braidd, yn nhref ddychmygol Porth yr Aur.

Cafodd Harri ei fagu ym mhentref Llangian yn Llŷn a bydd Pen Llŷn Harri Parri yn ei ddilyn wrth iddo gyfarfod hen gyfeillion a wynebau newydd wrth grwydro ei filltir sgwâr.

I gyd-fynd â'r gyfres bydd S4C yn darlledu cyfres arall fydd yn rhoi cyfle i ni glywed yr actor John Ogwen yn darllen rhannau o gyfrol yr awdur 'Straeon Porth yr Aur' o flaen cynulleidfaoedd ym Mhen Llŷn.

Yn rhaglen gyntaf Pen Llŷn Harri Parri, bydd Harri'n edrych ar y cysylltiad agos rhwng Pen Llŷn a'r môr. Bydd un agwedd o'r daith yn mynd ag o ar drywydd llongddrylliad y Stuart a ddrylliwyd ar greigiau traeth Porth Tŷ Mawr, neu Porth Whisgi, ar arfordir Gogleddol Pen Llŷn adeg y Pasg 1901.

Rheibiwyd cynnwys y llong gan y bobl leol fu'n cuddio'r cargo o jygiau, llestri, a whisgi wrth gwrs, mewn tyllau cwningod a chloddiau. Buodd Harri'n ddigon lwcus i ddod o hyd i ddwy o'r poteli whisgi.

"Mae un peth yn siŵr. Mae'r môr yn hanfodol i fywyd Llŷn - heddiw ac i'r dyfodol," meddai Harri. "Ond beth darodd fi wrth weithio ar gyfres yma ydy harddwch yr ardal a pha mor naturiol ydy'r bobl. Mae pellter wedi llwyddo i ddiogelu rhai pethau ym Mhen Llŷn.

"Yn ystod y gyfres dwi'n mynd i fannau na fues i erioed ac yn teithio ar ffyrdd fues i ddim arnyn nhw o'r blaen er 'mod nabod yr ardal yn dda," meddai.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales