Creadur arall gafodd flwyddyn brysur oedd y Meerkat, sydd wedi ennill enwogrwydd mewn hysbysebion teledu. Bydd Ioan Gruffudd yn lleisio dwy raglen arbennig Meerkat, ar Ddydd Nadolig a 3 Ionawr, sy’n dilyn hynt a helynt teulu o bum Meerkat yn Anialwch Namibia.
Dros gyfnod o flwyddyn, cawn weld eu hymdrechion dewr i wynebu pob math o beryglon - ffilm natur, ond ffilm yn llawn drama deuluol hefyd!
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales