Mae'r tonguetwister "Rowliodd Lowri lawr yr allt" yn anodd ei lefaru ar y gorau, ond mae'n hyd yn oed yn anoddach i'r rhai hynny sydd ddim yn gallu ynganu'r 'r' yn gywir.
Yn yn rhaglen Rowliodd Lowri ar nos Fawrth, 19 Mehefin, byddwn yn edrych ar y phenomenon o 'r'io sy'n gyffredin iawn yng Nghymru gan wrando ar brofiadau gwahanol unigolion. Cynhyrchydd y rhaglen Dafydd Parri sy'n esbonio.
"Mae nam lleferydd yr 'r' yn phenomenon diddorol. Rydw i fy hun yn un sy'n cael trafferth dweud 'r', ac rwy yn ymwybodol iawn o hynny wrth siarad. Roeddwn i eisiau ymchwilio i'r peth mewn ffordd ysgafn ond heb wneud hwyl am ben pobl chwaith," esboniai Dafydd, gan ychwanegu ei fod ef, ei frawd, ei fam ac un o'i ferched ei hun yn 'r'wyr.
Yn fochyn cwta yn y rhaglen bydd y diddanwr ar 'r'iwr enwog Dilwyn Morgan. Dilynwn ef wrth iddo fynd at therapydd lleferydd i geisio newid arferiad oes.
"Dwi ddim yn siwr pryd wnes i ddechrau 'r'io," meddai Dilwyn sy'n byw yn Y Bala. "Does gen i ddim cof plentyn ohono fo. Fel oni'n mynd yn hŷn ac yn mynd i'r Ysgol Uwchradd roedd plant eraill yn tynnu arna i, a bues i'n hir yn sylweddoli pam.
"Wrth fynd yn hŷn hefyd, a gadael yr ysgol, roedd o'n rhywbeth oni'n ymwybodol ohono fo. Hyd yn oed heddiw ar rai adegau pan bydda i'n sgwennu sgript neu darllen rwbeth bydda i'n newid ambell air lle 'mod i'n cael lot o 'r's ar ôl ei gilydd."
At y Therapydd Iaith Marian Trithal, yn Ysbyty Alltwen, ger Tremadog, y buodd Dilwyn i dderbyn ei driniaeth. Sesiwn wrth sesiwn, cawn ddilyn ei ymgais i ynganu 'r'. A fydd o'n llwyddo, a beth fydd ymateb ei deulu a'i gyfeillion?
Yn y rhaglen hefyd cawn sgwrsio gyda rhai o 'r'wyr eraill enwog y genedl yn cynnwys Ifan Tregaron a byddwn yn gweld y gwahanol fathau o 'r'io sy'n perthyn i ranbarthau o Gymru.
Hefyd, beth sy'n ei achosi. Ai diogi ydi o? Ai rhywbeth genetaidd ydi o neu'n rhywbeth sydd yn gyffredin i ardal arbennig?