Neidio at y cynnwys

S4C

Y Daith: Ein Dinas Sanctaidd Ni

Y Daith

Y Daith: Ein Dinas Sanctaidd Ni

Yn y rhaglen hon cawn ymweld â dinas Jerwsalem sy'n sanctaidd yng ngolwg tair o grefyddau mawr y byd, Islam, Iddewiaeth a Christnogaeth.

Dilynwn dau berson o Gymru, Moslem ac Iddew, sy'n awyddus i fynd yno am resymau gwahanol.

Mae Sirujal Islam, rheolwr tŷ bwyta wedi ymddeol, yn awyddus i fynd i Jerwsalem i wireddu breuddwyd ei dad, person tlawd o Fangladesh, i fynd ar bererindod i un o fannau mwyaf sanctaidd y Mwslemiaid, Mosg Al-Aqsa. "Roedd ei ffydd e'n gryf, ac mae fy ffydd innau'n gryf," meddai.

Mae'r cyn newyddiadurwr Mike Joseph am weld a yw gweledigaeth ei dad-cu yn yr Almaen am bobl o sawl gwlad yn byw yn gytûn yn Jerwsalem bellach yn realiti. "Dwi am weld os yw ei freuddwyd yn bosibl," meddai Mike, a fu yn Jerwsalem ddiwethaf nôl ym 1973 fel gohebydd rhyfel yn ystod y rhyfel Yom Kippur. "Ydy hi'n bosibl i bobl fyw yma mewn heddwch gyda'i gilydd?" gofynna.

Yn ystod y rhaglen dilynwn Sirujal ar ei ymweliad â Mosg Al-Aqsa, ac ymweliad Mike â Mur y Wylofain, y man mwyaf sanctaidd yn y byd i'r Iddewon.

Siom sy'n wynebu'r ddau wrth i Sirujal yn gyntaf gael ei atal rhag mynd mewn i'r Mosg ar ddydd Gwener gan nad yw yn gallu profi ei fod yn Fwslim trwy adrodd pennod o'r Koran. Ac mae Mike yn cael cyfarfyddiad tanllyd ger Mur y Wylofain â Zionydd ifanc sy'n hanu o Gaerdydd. Mae eu dadl yn ei ysgwyd. "Mae'n atgoffa fi am bopeth sy'n ofnadwy yn hanes y byd."

Anobaith a deimlodd cynhyrchydd a chyfarwyddwr y rhaglen, Ali Yassine, hefyd yn ystod yr ymweliad.

"Mae'r berthynas rhwng y gwahanol grefyddau yng Nghymru mor wahanol i'r hyn a welwch yn Jerwsalem," meddai Ali sy'n Fwslim. "Yng Nghymru, rydym yn cyd-fyw ac yn parchu ein gilydd. Yn Jerwsalem, does dim cuddio'r ffaith fod yr Arabiaid - boed yn Gristnogion neu yn Fwslemiaid - yn cael eu trin fel pobol eilradd. Does dim gobaith pan mae pobol yn cael eu trin yn y fath ffordd."

Ac meddai Mike, "Does dim gobaith heddiw, nag ar gyfer y dyfodol chwaith."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales