Neidio at y cynnwys

S4C

Y Fenai

Y Fenai

Cyfres pedair rhan newydd yn cyflwyno un o ryfeddodau naturiol ein gwlad sy'n gwbl unigryw i Gymru.

Dros y pedwar tymor bydd Y Fenai yn dilyn llanw a thrai bywydau'r bobl sy'n byw a gweithio ar lannau unig gulfor Cymru.

Bydd y rhaglen gyntaf yn dilyn yr hydref ar lan yr Afon Menai. Mae'r dyddiau yn byrhau, ond mae'r prysurdeb yn parhau ar hyd ei dyfroedd.

Mae Dr Greta Hughes yn gweithio fel Swyddog Pysgodfeydd ac un o'i swyddogaethau yw gwneud yn siŵr bod y cocos yn ffynnu yn ogystal â rheoli'r niferoedd sy'n cael eu hel.

"Os oes gormod o'r cocos yn cael eu hel, does 'na ddim digon i'r bywyd gwyllt," esbonia Greta. "Ac os oes 'na ormod yma, does dim digon o le i'r rhai ifanc setlo ac mae'r stoc gyfan yn marw."

Yn yr hydref hefyd mae'r cregyn gleision yn cael eu cynaeafu, a bydd y Sgipar John Jones yn dangos sut mae'n mynd ati i'w hel yn un o ffermydd cregyn gleision mwyaf Prydain.

Er bod rhannau o'r diwydiant pysgota yn ffynnu mae rhai eraill yn ara' deg ddiflannu. Dros y chwarter canrif ddiwethaf mae'r môr wedi cynnig bywoliaeth i'r gŵr lleol Gareth Owen, ond yn ddiweddar mae pethau wedi bod yn anodd iddo.

"Dros y tair blynedd diwethaf mae pethau wedi mynd i lawr yn ofnadwy," meddai Gareth. "Mae'n ddigon i dorri calon rhywun a dweud y gwir."

Hefyd, byddwn yn dod i adnabod Harbwrfeistr Caernarfon, Richard Jones, sy'n dilyn ôl troed chwe chenhedlaeth o'i deulu ar y Fenai, a bydd y naturiaethwr Siôn Roberts, yn sôn am fywyd gwyllt yr ardal. Bydd y rhaglen hefyd yn dilyn Tomos Tudor, bachgen ifanc sy'n gobeithio dechrau gyrfa ddisglair yn hwylio, fel ei ewythr adnabyddus Richard Tudor, wrth iddo ymarfer ei grefft ar li twyllodrus y Fenai.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales