Gwylio Bryn Terfel: Gŵyl y Byd ar Clic
Bydd S4C yn darlledu rhaglen ddwy awr o uchafbwyntiau gŵyl gerddorol Bryn Terfel sy'n cael ei chynnal ar y Southbank yn Llundain o nos Fercher 4 Gorffennaf am bedair noson.
Mae Bryn yn hapus fod S4C trwy ddarlledu Bryn Terfel: Gŵyl y Byd nos Sul, 15 Gorffennaf, am 8.00 o'r gloch, yn rhoi'r cyfle i wylwyr y Sianel gael blas ar Brynfest, sydd, meddai, yn rhoi cyfle i ni'r Cymry arddangos ein talent. Cafodd gwefan S4C gyfweliad egsgliwsif gyda Bryn am yr Ŵyl.