DSC_2300

Hanna Hopwood

Graddiodd Hanna o Brifysgol Caerdydd gyda gradd yn y Gymraeg ac mae hi ar hyn o bryd yn astudio gradd meistr yn Rhydychen. Mae Hanna newydd ymuno gyda thim Hacio eleni yn dilyn cyfnod yn cyflwyno rhaglen ‘Y Lle’ ar S4C.

Catrin Haf Jones

Ymunodd Catrin â Hacio ym mis Mai 2012, wedi cyfnod fel newyddiadurwraig gyda Golwg 360. Graddiodd yn y Gyfraith o Brifysgol Durham yn 2009, cyn mynd ymlaen i wneud gradd MA mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gwleidyddiaeth – o’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad, i Fae Caerdydd, a thu hwnt.

Bethan Muxworthy

Ymunodd Bethan â Hacio ym mis Mehefin 2012, ar ôl graddio gyda diploma ôl radd mewn newyddiaduraeth ddarlledu o Goleg Newyddiaduraeth Caerdydd, ar ôl gwneud cwrs gradd mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a’r Cyfryngau yn y Brifddinas. Mae hi wrth ei bodd yn darganfod y straeon personol sydd wrth wraidd y rhan fwya’ o straeon materion cyfoes mawr y dydd.