Iolo yn Rwsia
Mae tiriogaeth Rwsia'n ymestyn dros un rhan o wyth o arwynebedd y blaned. Mae'r tirlun yn amrywio o Fôr y Gogledd draw i'r arfordir egsotig yn y dwyrain lle mae Rwsia ac Asia'n cwrdd. Ar hyd y ffordd, mae fforestydd yn cynnig lloches i anifeiliaid rheibus prin. Mae eirth yn hela samwn mewn afonydd gwyllt, ac mae adar ysglyfaethus yn chwyrlïo uwch ben y cyfan. Iolo Williams sy'n archwilio'r wlad ddirgel hon. Mae'n mynd ar daith sy'n dangos tirweddau anferth a rhyfeddodau naturiol mewn cyfres drawiadol am ranbarth anghyfarwydd o fyd natur.

