Ganwyd Iolo yn Llanfair-ym-Muallt, Powys yn 1962. Symudodd ei deulu i Sir Benfro pan oedd Iolo'n dri mis oed, a bu'n byw yno nes oedd e'n 5 oed, pan symudodd y teulu i Lanwddyn, ger Llyn Efyrnwy. Aeth Iolo i Ysgol Gynradd Llanwddyn ac Ysgol Uwchradd Llanfyllin, ond doedd e ddim yn hapus yno, a bu bron iddo adael ac ymuno â'r fyddin. Ond darganfyddodd ddawn at ieithoedd ac astudio Ffrangeg a Beioleg at Lefel A.
Aeth Iolo i'r coleg yn Llundain ac astudio Ecoleg, ac roedd e wrth ei fodd. Roedd e wedi dod o hyd i'r maes perffaith iddo, a dyma lle cychwynodd ei yrfa ym myd natur. Yn 1985, aeth i weithio i'r RSPB, a dechreuodd gyfrannu at raglenni radio a theledu yn sgil y swydd hon. Yn 1997, cyflwynodd ei gyfres gyntaf i'r BBC, a phan ddaeth mwy o waith teledu i ddilyn, gadawodd Iolo yr RSPB i ddilyn gyrfa yn y cyfryngau.
Yn 2000, darlledwyd y gyfres gyntaf o Crwydro ar S4C, gyda Iolo'n dilyn taith gerdded o ddewis ei westeion arbennig. Roedd y gyfres yn hynod boblogaidd, a dros y 5 cyfres a ddilynodd, crwydrodd Iolo gydag enwau mor amrywiol â Matthew Rhys, Siân Lloyd, Elin Fflur, Tudur Dylan, Dafydd Iwan ac Ann Clwyd.
Mae Iolo wedi cyflwyno nifer o raglenni i BBC Cymru yn ogystal â chyfresi Natur Anghyfreithlon a Iolo yn Hedfan i S4C. Mae e'n arbenigwr ac ymgyrchydd blaenllaw ym maes materion natur ac amgylchedd. Mae e'n poeni am ei ôl troed carbon yn sgil yr holl deithio mae'n ei wneud ar gyfer ei waith, ond mae ei ymgyrchu ar ran cefn gwlad ac anifeiliaid mewn perygl yn werthfawr iawn – rhyw fath ar offset i adfer cybwysedd.
Mae Iolo'n byw nid nepell o Lanwddyn, lle magwyd e, gyda'i wraig, eu dau fab a dau gi. Yn ei amser hamdden, ei hoff beth ydy cerdded, yn enwedig yn Mynyddoedd y Berwyn. Mae e hefyd wrth ei fodd yn paragleidio yn ardal y Fenni, ac mae ei fab hynaf wedi dechrau mynd gyda'i dad. Bydd Iolo'n chwarae ambell gêm o rygbi, fel mae e wedi gwneud erioed, a hyd yn oed pêl-droed – unrhyw beth i gadw'n weithgar.
Hoff fwyd Iolo ydy cyrri a bwyd Indiaidd, a dyw e ddim yn hoff o fwytai ffansi o gwbl. Tase fe ddim mor brysur yn gorfforol, mae e'n taeru y buasai'n pwyso 20 stôn! Mae'n well ganddo yfed mewn tafarn nag adre, a chwrw gyda'r hogiau yw ei ddewis o ddiod – dyw e ddim yn foi gwin.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales