Bedd y Bardd
Dydd Llun, Mawrth 22, 2010, 15:53
Buom yn mynwenta dros y penwthnos. Nid dyna’r ffordd fyddai pawb yn dewis treulio pnawn Sadwrn, ond fel sgwennodd yna fardd, ‘nid yw pawb yn gwirioni’r un fath.’ Chwilio am fedd bardd yr o’n ni fel mae’n digwydd a hynny ar Ynys Tysilio. O glywed am y fynwent bum seren sydd ar gyrion Porthaethwy (ydy mynwentwyr yn graddio mynwentydd felly?!) fe fydd nifer yn meddwl am Cynan mae’n siwr. Ond bedd bardd arall oedd ein nôd y tro yma. Neb llai na John Evans. John pwy?

Ie y Bardd Cocos! Neu, fel y cafodd ei urddo yn gellweirus (a chas?) gan rai o’i gyfoedion, Yr Archfardd Cocysaidd Tywysogol. Os fuodd yna un ‘nad oedd yn gwrioni yr un fath’, yna John Evans o Borthaethwy oedd hwnnw. Mae yna hanesion lu, a rhai anodd eu credu, am y dyn. Fydd nifer ohonynt i’w clywed ar Pethe yn ogystal â rhai o’i gerddi tra gwreiddiol.
Yr un â ddaw i feddwl y rhan fwyaf wrth gwrs yw ei bennill anfarwol am lewod pont Britannia. Ond mae yna berlau eraill, megis ei linell i esbonio pam na fyddai’n torri ei wallt ond unwaith y flwyddyn – ‘Fydd yr awen ddim yn fflash, heb fwstash.’ Neu’r pennill hwnnw am gerflun carreg arall wrth ymyl, y Marquis of Anglesey sydd rownd y gornel o fynwent y Bardd.
Marquis of Anglesey yn ddi-fraw
A’i gledd yn ei law,
Fedar o ddim newid llaw
Pan fydd hi’n bwrw glaw.

A dyma’r dyn ei hun! Y Bardd Cocos nid y Marquis, er fod gan y bardd hefyd gledd yn ei law! Yn ôl ei ddisgrifiad ei hun o’i swydd fel yr Archfardd Tywysogol mae’n amlwg ei fod yn credu bod cario cleddyf - a’i ddefnyddio?- yn hawl iddo. ‘Mae gwaith yr archfardd yn waith caled … Mae’r filwriaeth yn perthyn i’r tywysog, a dyna’r hawl i gario cleddau. Nid ydyw’r swydd yn ddiberygl heb gario’r cleddau.’
Mae’r gyfrol Perlau Cocos (1998, Gol. Huw Ceiriog a Myrddin ap Dafydd) yn llawn o ddyfyniadau difyr felly ac yn tystio i hyder absoliwt y bardd yn ei allu a’i waith. O ddarllen un hanesyn fe gredais i ddechrau iddo gael pwl o wyleidd-dra yn Eisteddfod Caernarfon, 1860. Wedi derbyn gwahoddiad i gamu i’r llwyfan dyma fe’n ymateb i’r gymeradwyaeth gydag ‘englyn’ o’i waith ei hun.
Chwi feirdd mawr,
Yn y Steddfod fawr,
Tydw i ond llwch y llawr.
i chwi feirdd mawr.
Ond beirniadu’r beirdd eraill y mae e fan hyn. Y nhw sy’n ei ystyried yn llwch, nid y fe! Y nhw sy’n ei ddibrisio a’i ddiystyru.
Mae nhw’n llwch erbyn hyn, y beirdd mawr yma i gyd. Yn fach neu’n fawr wedi eu diystyru bob un gan y bedd. A faint ohonynt sydd heb adael yr un llinell ar ôl? Yn wahanol i’r Bardd, a’i bennill sydd ar gof ac ar lafar.
Bardd Cocos efallai, ond bardd sy’n para i ganu o hyd.





