Bylchau Elfyn Lewis
Dydd Iau, Mehefin 17, 2010, 15:45
Nid chwilio am fwyd yr o’n i wrth fynd i Oriel Caffi Croesor bnawn Sadwrn dwetha. Do, ges i wydraid o win, a llond dyrnaid o grisps (rhai digon posh) ond ches i’m cyfle i brofi bwyd y caffi gan fod danteithion yr arddangosfa mor flasus. Yn wir mae’r artist Iwan Bala wedi disgrifio’r paentiadau a oedd yno fel rhai sy’n fwytadwy. Ond wnes i ddim eu bwyta nhw chwaith. Yn rhannol am fod yna fframiau a gwydr o’u cwmpas. (Rhag ofn i rywun fel fi gael ei demtio?) Ac am fod yr artist ei hun yno hefyd!

Elfyn Lewis yn gwrando
Fyddai unrhyw ymweliad â Chwm Croesor yn haeddu sylw mewn blog. Ond nid y golygfeydd o’r Cnicht a’r mynyddoedd – a’r bylchau sydd rhyngddynt – oedd wedi denu’r ymwelwyr bnawn Sadwrn. Bylchau, arddangosfa ddiweddaraf Elfyn Lewis, ddaeth â ni yno i gyd. Er yn peintio ac yn byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, daw Elfyn o ardal Porthmadog ac mae ganddo gysylltiadau â Chroesor. Ers iddo ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Y Bala llynedd mae wedi bod yn arbennig o brysur gan arddangos yn Llydaw, Cwm Cynon a Chaerdydd yn ddiweddar. Yn awr yng Nghwm Croesor dyma’r artist a’i waith yn dod adref.

O wrando arno’n sôn am y ffordd y mae’n gweithio, daw’n amlwg fod paent yn dal i’w gyfareddu a’i gyffroi. Mae fel petai’r paent yn troi’n ganfas i Elfyn – a’r wal o ran hynny ar adegau! Bron nad oes yna rywbeth o’r cerflunydd yn hyn. Y paent yn drwch tri dimensiwn, yn gofyn i rywun estyn a’i gyffwrdd. A dyna ni yn ôl gyda’r lluniau bwytadwy.

41. Taibach
Un peth sy’n gyson hefo’r gwaith a enillodd Y Fedal Aur iddo’n Y Bala yw’r ffaith fod y teitlau ar y lluniau yn enwau ar lefydd go iawn. Dyna i chi Corris, Cwmorgan, Taibach neu Bwlch Derwin. Ond tra bod yr enwau’n cynrychioli llefydd sy’n real ac adnabyddus, haniaethol yn eu hanfod yw’r lluniau. Nid Taibach sydd yma wrth gwrs. Nid yn llythrennol beth bynnag. Dal profiad y mae Elfyn? Cynnig profiad yn ôl? Mae’n wir bod yna elfen o dirwedd i’r darluniau – dywed hynny ei hun – ond nid ei atgynhyrchu yw ei fwriad o gwbwl. Dal emosiwn ac ysbryd y llefydd o bosib. Adlewyrchiad o deimlad ac nid lle.

Mae Bylchau gan Elfyn Lewis yn Oriel Caffi Croesor, Penrhyndeudraeth, o Fehefin 13eg tan Gorffennaf 18ed.
blogiwr: Gwion Hallam






Awst 23, 2010 am 11:01 am
[...] i chi lwyddiant Elfyn Lewis yn un peth. A’r blog diwethaf yn ymateb cadarnhaol i’w arddangosfa Bylchau yng Nghwm Croesor gwych o beth oedd clywed iddo ennill gwobr Artist Cymreig y [...]