RSSBlog Pethe

Un Nos Ola Leuad yn 50

Dydd Iau, 17 Tachwedd, 2011

Mae’n hanner canrif ers cyhoeddi’r nofel Un Nos Ola Leuad. Ym 1961 y cyhoeddwyd nofel drawiadol a dylanwadol Caradog Prichard am y tro cyntaf. Mae wedi ei hargraffu gan Wasg Gee, Gwasg Gwalia a chan Y Lolfa yn fwy diweddar. Mae ar faes llafur ein hysgolion, yn cael ei hastudio’n ein colegau ac yn cael …mwy

Opera yn Gymraeg

Dydd Llun, 19 Medi, 2011

Beth sydd gan y mannau yma’n gyffredin? Fienna, Tŷ Opera Sydney, Y Met yn Efrog Newydd a chapel Bethel, Llan Ffestiniog. Fe fyddai’r ffans Opera yn eich plith yn gwbod yr ateb, o bosib. Nid bod yn nawddoglyd ydw i – na’n ddramatig mewn modd dros ben llestri o operatig – wrth …mwy

Cyfres Newydd

Dydd Llun, 12 Medi, 2011

Ar y funud mae criw ‘Pethe’ yn paratoi ar gyfer cyfres newydd, fydd yn cael ei darlledu o Fedi’r 13eg ymlaen. Ymysg y bobol fydd yn cymryd rhan yn y gyfres bydd Aled Jones Williams , Mererid Hopwood, Meredydd Evans , Dafydd Elis Thomas a Heather Jones. Byddwn yn trafod pynciau mor amrywiol â chrysau …mwy

Diodde o PED?

Dydd Iau, 11 Awst, 2011

Cyfaddefiad – rwy’n diodde’n drwm o PED. A hynny er ei bod hi’n ddydd Iau  erbyn hyn! Efallai fod PED (Post-eisteddfod Depression) yn pwyso’n drwm arna chi hefyd ers gadael Wrecsam ddydd Sul. Mae hynny’n rhyw gysur sbo. Ond er gwbod bod y felan dros y wlad gyfan yr wythnos yma – a bod y …mwy

Gweithdy’r Clocsiwr – Symud Gyda’r Amseroedd

Dydd Mercher, 18 Mai, 2011

Mae’n siwr fod y rhan fwyaf ohonoch wedi ymweld â’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan rhyw dro neu’i gilydd. Mae na dros ddeugain o adeiladau gwahanol o bob rhan o Gymru yno erbyn hyn, ac mae’n ddigwyddiad o bwys pan mae na hen adeilad yn cael ei agor o’r newydd yno.

Ond faint wyddoch chi am …mwy

Y lechen yng ngwaed Gai Toms

Dydd Gwener, 6 Mai, 2011

Blaenau Ffestiniog = glaw. Neu glaw = Blaenau Ffestiniog. Hafaliad cywir i rai? A mwy na diferyn o wirionedd ynddo hefyd?  Ond wedi bod yno’n ffilmio’n ddiweddar nid yw’r sym yn gwneud synnwyr  i fi. I fyny yn nhopiau chwarel Llechwedd roedd yr awyr yn lasach na’r lechen o’n cwmpas. Roedd y cwmni’n heulog hefyd …mwy

Y Kate Roberts oesol ac ifanc.

Dydd Mercher, 2 Chwefror, 2011

Ydy Cae’r Gors wedi ei gynnwys yn y gyfrol drom bwrdd coffi 100 o lefydd i’w gweld cyn marw? Dyna aeth trwy fy meddwl wrth drefnu bod criw yn mynd i  ffilmio yno eto. Digon posib nad yw yno wrth gwrs, na Rhosgadfan y pentref lle y mae’r tŷ’n sefyll. Mae yna gant a mil …mwy

Stwffiwch y Dolig, ddim y twrci!

Dydd Mercher, 1 Rhagfyr, 2010

‘Mae’n Rhagfyr! Nadolig Llawen i chi i gyd!’ Dim ond o fod yma’n y swyddfa – a nghylwed i’n dymuno hynny’n uchel – y byddech wedi clywed y tinc sinigaidd yn fy llais. (A bydde gweld y goeden Nadolig blastig yn y gornel yn help hefyd!) A dim ond tinc o sinigiaeth sydd …mwy

‘Hunan’-gofiant arall Gwynfryn!

Dydd Iau, 11 Tachwedd, 2010

Dwi’m yn meddwl ein bod ni’n unigryw fel Cymry yn ein hoffter o gofiannau, a hunangofiannau’n enwedig. Mae’n anochel ein bod ni fel pobol wrth ein boddau’n ymddiddori – neu’n busnesu – ym mywydau pobol eraill. Wedi’r cwbwl nagyw bywydau pobol eraill yn ymddangos cymaint yn fwy diddorol na’r bywyd i ni fel unigolion yn …mwy

Penblwydd Hapus Tŷ Newydd

Dydd Mercher, 20 Hydref, 2010

Nid dim ond partïo y mae criw Pethe’n arbenigo ar ei wneud. Na wir i chi! Ry’ ni yn gwbod sut mae dathlu gyda’r gorau wrth gwrs. Ond ffilmio rhai eraill yn dathlu fuodd criw Pethe’n ei wneud yn ddiweddar a hynny yn Nhŷ Newydd,  Llanystumdwy a oedd yn dathlu 21ain o flynyddoedd ers dod …mwy