‘Cymru a Chynilo’
Dydd Mawrth, Medi 14, 2010, 15:49
Fedrwch chi helpu’r Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru i ddod o hyd i fwy o fanylion am ‘Cymru a Chynilo’, ffilm a ddaeth i’w meddiant fel rhan o gasgliad ehangach?
Gwyliwch y ffilm ac edrychwch ar y lluniau isod ohoni; ydych chi’n adnabod rhai o’r bobl neu’r llefydd? Os ydych, cysylltwch! pethe@s4c.co.uk neu rhowch sylw ar waelod y dudalen hon!
Lle mae’r capeli yma?

Fuoch chi yn un o’r ysgolion yma?! Lle maen nhw?

Cofiwch fynd i chwilota ar wefan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru mae ‘na drysorau yna!






Medi 14, 2010 am 10:14 pm
Llun ymarfer corff yw Ysgol Dolgarrog, Dyffryn Conwy yr Athro yw Captain Robinson. Hefyd y plant yn mynd ir ysgol yn Nolgarrog.
Y Siop yw Swyddfa Post , Dolgarrog.
Llun or ffermwr yn gyrru defaiid yn debyg i Ffordd Gower, Trefriw, Dyffryn Conwy.
Mae hefyd lun o rhes o dai ym Mettws y Coed.
Llun y capel ar yr allt yw Capel Annibynwyr , Trefriw.
Siop ar y gornel yn Llanrwst – ar y gornel rhwng y Sgwar a Stryd Dinbych
Llun or ysgol yn y coed yn debyg i Ysgol Maenan, Dyffryn Conwy
Medi 15, 2010 am 10:13 am
Diolch yn fawr am yr ymateb Cledwyn Griffiths. Gret. Amal i un wedi ffonio i awgrymu rhai o’r lleoliadau hynny hefyd. Neb wedi crybwyll enw’r athro tan rwan. Hynny’n ddifyr iawn. Oes mwy o wybodaeth gyda chi am Captain Robinson?
Medi 15, 2010 am 7:22 pm
Mae’r ffilm yn dangos Capel Rhydlydan, Pentrefoelas sydd dal ar ei draed ond heb fod yn gapel bellach. Mae’r capel wedi ei leoli ar ochr yr A5 rhyw filltir i’r de o Bentrefoelas.
Mae’n dangos hefyd Ysgol Capel Curig sef yr ysgol yn y wlad. Mae yna lun o siopau Dolgarrog lle y dangosir y Swyddfa Bost ac hefyd llun o sgwar Llanrwst.
Mae yna lun hefyd o res dai sy’n debyg i’r tai ar y ffordd allan o Fetws y Coed i gyfeiriad Trefriw.
Medi 16, 2010 am 10:35 pm
y capel ail iw capel ybont ar ochor yr A5 ger Tafarn Y Geeler rhwng Pentrefoelas a Cerrig y Drudion
Medi 16, 2010 am 10:47 pm
Y cwch yn hwlio aalan or harbwr yn CAERGYBI
Medi 17, 2010 am 3:39 pm
Diolch am yr ymateb pellach – Leonard a Gethin – mae’r ymateb dros y ffon ac ebost wedi bod yn arbennig o dda hefyd. Mae’n amlwg bod y ffilm wedi tanio dychymyg a diddordeb nifer fawr o wylwyr ac mae bwriad i ddarlledu eitem yn y gyfres yma eto fel dilyniant i’r un gyntaf ar y ffilm.
Medi 21, 2010 am 6:23 pm
Ysgol y Cyngor Capel Curig
Giat Ysgol Dolgarrog
Ymarfer Corff yn Ysgol Dolgarrog
Pentre Felin Betws y Coed(lle mae’r dyn yn mynd i’r ty)
Congol y sgwar yn Llanrwst(lle mae’r Fam a’r plentyn yn mynd
i mewn i’r siop ddillad ar y gornel-siop Peacocks oeddi erstalwm)
Y Fam a’r plentyn yn croesi’r ffordd a mynd i mewn isiop esgidiau
yn stryd ddinbych ar draws y ffordd i stryd watling yn Llanrwst
Siop E.B.Jones a swyddfa’r post Dolgarrog
Llyn Mymbyr ar y dechrau a’r diwedd wrth gwrs
Medi 23, 2010 am 6:10 pm
Rhy hwyr!
Ond dw i’n cytuno gant y cant efo’r sywadau uchod!
Medi 26, 2010 am 2:37 pm
Mi fedrai gadarnhau mae Capel Ebeneser, Trefriw yw y capel ar yr allt. Mae fy nhad Elfed Thomas, a gafodd ei eni a’i fagu yn Nhrefriw a sydd yn dal i fyw yn pentref yn cofio bod yn y capel hefo ei dad pan gafodd y darn uchod ei ffilmio. Mae fy nhad yn cofio bod y darn wedi cael ei ffilmio sawl tro gan fod pobol yn edrych ar y camera gormod a doedd hyn ddim yn plesio y cyfarwyddwr.
Tachwedd 3, 2010 am 10:14 pm
[...] blog Pethe, Pethe ar Clic a [...]
Mawrth 2, 2011 am 5:49 pm
[...] sylwadau ar y flog Pethe o fis Medi 2010. Fydd sgwrs am bethau diddorol a pherthnasol byth yn mynd mas o [...]