Cywydd gan Iwan Llwyd

Dydd Mawrth, Mehefin 8, 2010, 11:49

Ofnadwy o drist oedd clywed am farwolaeth Iwan Llwyd. Mae gan bawb wnaeth ei nabod eu hatgofion a’u lluniau. Mae gan fwy fyth linellau ar eu cof. Daeth yna un gerdd i’m meddwl yn syth ar ôl clywed y newydd. Rhyw bedair blynedd yn ôl dyma ofyn iddo gyfansoddi cywydd yn anrheg i ffrind a’i dyweddi, a nhw ar fin priodi’n Y Wladfa. Gwych oedd cael derbyn y gerdd a’i chario i Batagonia i briodas Esyllt o Gymru a Cristian o’r Gaiman yng nghapel Bryn Crwn, Dyffryn Camwy. Cafwyd gwledd a dawns yn neuadd Bethesda wrth ymyl Bod Iwan, hen gartref wyrion Michael D Jones. Roedd Iwan Llwyd wedi bod yno o’n blaen ni wrth gwrs a Gerallt, un o’r brodyr a oedd yn byw yno ar y pryd, yn dal i drysori’r gerdd a gyfansoddodd a’r ffaith iddo alw’n ei dŷ.

Bardd y ‘mynd’ oedd Iwan, ond mae’r cerddi a adawodd am aros (fel honno ym Mod Iwan). Er mwyn cofio a dathlu ei awen anniddig dyma’r cywydd sy’n sôn am daith a cherddoriaeth, am lwybrau cariadon a’r iaith sy’n eu clymu’n ddiddiwedd. Am deithio i bellafoedd er mwyn darganfod ein hunain a’n gwlad. Byrdwn a bywyd Iwan ei hun?

Gan obeithio bod ei chyhoeddi yn addas a chywir, a chan ddiolch i’r ddau am fod yn barod i rannu eu cerdd. Daw’r lluniau o’n cyfnod ni yno.

I Esyllt a Cristian

Y mae ym mhellterau’r môr
emyn at bob un tymor:
cynhaea’ a gaea’ i gyd,
a’r haf a’i ferw hefyd,
a gwanwyn â’i law’n gynnes
i’n dwyn ni guriad yn nes:

Yn nes at galon Esyllt
daw’r gŵr o’i gyfandir gwyllt,
y ‘gaucho’ o Gymro, a gwin
i’w rannu o’r Ariannin:
i’r Bryn Crwn daw hwn o hyd
dan hwyl hyd ei anwylyd:

a’r Wladfa’n oedfa o hwyl
i uno dau gariad annwyl,
uno’r acenion uniaith,
uno camau dechrau’r daith
law yn llaw lle bo lliwiau
berw’r haf yn hirbarhau:

i barhau’r iaith ar y paith pell
heidiwn yn un ddiadell
i gorlannau dau sy’ ar dân,
ar hast at Esyllt a Cristian
awn â’n holl ganeuon ni,
i’r Iwerydd o Eryri:

o Eryri’n forwrol
awn â’n henwau ninnau’n ôl
o Gwm Hyfryd i’r Gaiman
yn dwrw mwy nac adar mân,
twrw tango’r gitarau
heddiw yw dawns ddiddiwedd dau.

Iwan Llwyd
Mawrth 2006

blogiwr: Gwion Hallam

Gwneud sylw