Llyfrau Taith T. Ifor Rees
Dydd Mawrth, Mawrth 23, 2010, 17:33
Wedi graddio mewn Cymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth, ymunodd T. Ifor Rees, a oedd yn dod o Rhydypennau yng Ngheredigion, â’r Swyddfa Dramor a dyma ddechrau ar yrfa ag aeth ag ef o Gymru i Ewrop ac yna i Dde America am gyfnod o 25 mlynedd.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau taith gan gynnwys Sajama (1960) a Illimani (1964) sy’n cael sylw ar Pethe 23 Mawrth – gallwch weld y rhaglen ar clic tan Ebrill 26.
Mae Leusa Llewelyn, sy’n adrodd yr hanes ar y rhaglen, wedi ysgrifennu darn am T. Ifor Rees i bapur bro’r Tincer ar wefan y BBC.
Mae Leusa ar fin teithio i Dde America ei hun, darllenwch am ei thaith ar ei blog.
Roedd T. Ifor Rees yn ffotograffydd da ac mae’r lluniau isod, o gasgliad ei ferch, Morfudd Rhys Clark, yn rhoi blas o’i deithiau.

T. Ifor Rees

Ia ag Eira

Y stryd fawr

Yn Mecsico






Chwefror 18, 2011 am 3:23 pm
Er gwybodaeth, bydd cyflwyniad gan Leusa Fflur am T. Ifor Rees yn y Llyfrgell Genedlaethol am 1.15 ddydd Mercher 23 mis Chwefror. Mae’r digwyddiad am ddim, ond mae angen cadw tocyn o flaen llaw:
http://www.llgc.org.uk/index.php?id=160&L=1